Ehediad TWA 800
Enghraifft o'r canlynol | damwain awyrennu |
---|---|
Dyddiad | 17 Gorffennaf 1996 |
Lladdwyd | 230 |
Lleoliad | Moriches Inlet |
Gweithredwr | Trans World Airlines |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Boeing 747-131 a ffrwydrodd a chrasiodd i Gefnfor yr Iwerydd ger East Moriches, Efrog Newydd, UDA, ar 17 Gorffennaf, 1996, am tua 20:31 EDT, 12 munud ar ôl ei esgynfa, gan ladd pob un o'r 230 o bobl arno oedd Ehediad Trans World Airlines 800 (TWA 800). Ehediad teithwyr rhyngwladol rheolaidd o Ddinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, i Rufain, yr Eidal, gydag arhosiad ym Mharis, Ffrainc, oedd TWA 800.[2]
Tra yr oedd ymchwilwyr damweiniau o'r Bwrdd Diogelwch Cludiant Cenedlaethol (NTSB) yn teithio i fan y crash, lle cyrhaeddant trannoeth,[3] bu tybiaeth gynnar taw ymosodiad terfysgol oedd achos y cwymp.[4][5][6] O ganlyniad, dechreuodd y Biwro Ymchwilio Ffederal (FBI) ymchwiliad troseddol ar yr un pryd.[7] Un fis ar bymtheg yn ddiweddarach cyhoeddodd yr FBI nad oedd unrhyw dystiolaeth o weithred troseddol, a daeth y biwro ei ymchwiliad i ben.[8]
Daeth ymchwiliad yr NTSB i ben gyda'i adroddiad terfynol pedair mlynedd yn hwyrach ar 23 Awst 2000. Achos debygol y damwain, yn ôl casgliad yr adroddiad, oedd ffrwydrad tanwydd/anweddau fflamadwy mewn tanc tanwydd, ac, er ni ellir ei ddweud yn sicr, achos fwyaf tebygol y ffrwydrad oedd cylched byr.[9] O ganlyniad i'r crash, datblygwyd gofynion newydd ar gyfer awyrennau er mwyn osgoi ffrwydradau tanciau tanwydd yn y dyfodol.[10]
Mae nifer o ddamcaniaethau amgen ynghylch TWA 800 yn bodoli, a'r mwyaf boblogaidd o'r rhain yw'r syniad taw taflegryn gan derfysgwr neu Lynges yr Unol Daleithiau a achosodd yr awyren i gwympo a bod cynllwyn gan y llywodraeth i gadw hyn yn gyfrinach.[11][12] Daeth damcaniaeth y taflegryn i'r amlwg gan yr oedd llygad-dystion yn ardal Long Island yn honni gweld rhywbeth yn debyg i fflêr neu dân gwyllt esgyn i'r awyr a ffrwydro. Ond yn ôl yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog (CIA) wnaethont weld dim ond yr awyren ar dân, nid cyrch taflegryn.[13]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ NTSB (2000), ffig.21, t.64.
- ↑ NTSB (2000), t. 1.
- ↑ NTSB (2000), t. 313.
- ↑ What happened to Flight 800? (HTML). CNN (19 Gorffennaf, 1996). Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
- ↑ Knowlton, Brian (24 Gorffennaf, 1996). Investigators Focus Closely on Terrorism As Cause of Explosion: Chemicals Found on Jet Victims, U.S. Reports (HTML). The New York Times. Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
- ↑ Fedarko, Kevin et. al. (29 Gorffennaf, 1996). Terror on Flight 800: Who wishes us ill? (HTML). Time. Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
- ↑ Aviation and criminal experts probe TWA crash (HTML). CNN (19 Gorffennaf, 1996). Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
- ↑ FBI: No criminal evidence behind TWA 800 crash (HTML). CNN (18 Tachwedd, 1997). Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
- ↑ NTSB (2000), t.xvi.
- ↑ Lowery, Joan (16 Gorffennaf, 2008). Jet fuel-tank protection ordered (HTML). Seattle Post-Intelligencer. Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
- ↑ Revkin, Andrew C. (17 Medi, 1996). Conspiracy Theories Rife On Demise of Flight 800 (HTML). The New York Times. Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
- ↑ 'Pierre Salinger Syndrome' and the TWA 800 conspiracies (HTML). CNN (17 Gorffennaf, 2006). Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
- ↑ Tauss, Randolph M. (14 Awst, 2008). The Crash of TWA Flight 800. Adalwyd ar 14 Ebrill, 2010.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]Bwrdd Diogelwch Cludiant Cenedlaethol (NTSB) (2000). Aircraft Accident Report: In-flight Breakup Over the Atlantic Ocean Trans World Airlines Flight 800 (PDF), NTSB/AAR-00/03. URL