Neidio i'r cynnwys

Ffrwydrad Ankara 2007

Oddi ar Wicipedia
Ffrwydrad Ankara 2007
Enghraifft o'r canlynolhunanfomio Edit this on Wikidata
Dyddiad22 Mai 2007 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
LleoliadAnkara Edit this on Wikidata
Map

Ymosodiad gan hunanfomiwr yn Ankara, prifddinas Twrci, ar 22 Mai 2007 oedd ffrwydrad Ankara 2007. Bu farw chwe pherson, yn cynnwys un o dras Bacistanaidd, ac anafu 121. Bu farw seithfed person o ganlyniad i'w anafiadau ar 7 Mehefin, wythfed person ar 17 Mehefin, a nawfed person ar 4 Gorffennaf.

Ffrwydrodd yr hunanfomiwr ger arhosfan bws tu allan i ganolfan siopa Anafartalar yn ardal Ulus yn ystod awr frys y prynhawn.[1][2] Dywedodd y Maer Melih Gokcek, "Dyma'r olygfa erchyllaf imi ei gweld erioed", ac aeth y Prif Weinidog Recep Tayyip Erdogan yno a datgan "Gwelsom ymosodiad terfysgol creulon a didrugaredd ar amser prysuraf Ankara". Ar gais erlynydd mewn un o lysoedd Ankara, gwaharddwyd darlledwyr a phapurau newydd rhag dangos lluniau o'r ffrwydrad "er lles yr ymchwiliad".[3] Er hyn, dangoswyd y clwyfedigion a rhannau cyrff yn cael eu symud gan yr heddlu ar y sianel deledu breifat NTV.[4]

Ni chafodd gyfrifoldeb ei hawlio yn syth, ond yn ôl yr heddlu ffrwydron plastig A-4 a achosodd y ffrwydrad, yr un fath o ffrwydron a ddefnyddir gan wrthryfelwyr Cyrdaidd.[3] Roedd Plaid Gweithwyr Cyrdistan (PKK) felly dan amheuaeth o'r ymosodiad. Y blaid honno oedd yn gyfrifol am sawl ymosodiad yn 2006, ac ychydig dyddiau cyn ffrwydrad Ankara, ar 18 Mai, datganodd y PKK derfyn i'w gadoediad. Er hynny, gwadodd y PKK gyfrifoldeb am ffrwydrad Ankara[5] a chyn yr ymosodiad fe ddatganodd un o gadlywyddion y PKK, Murat Karayilan, taw asiantaeth cudd-wybodaeth Twrci oedd i feio am ffrwydrad lori yn Arbil, Irac, ar 9 Mai ac bydd ymosodiadau tebyg i'w disgwyl mewn dinasoedd Twrci.[3] Datganodd Kemal Onal, Llywodraethwr Ankara, taw Guven Akkus, dyn 28 oed o dde-ddwyrain y wlad, oedd yr hunanfomiwr.[2]

Digwyddodd yr ymosodiad ychydig wythnosau cyn etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf. Yn sgil y ffrwydrad, galwodd y Prif Weinidog Erdogan am ymgyrch filwrol yn erbyn gwrthryfelwyr Cyrdaidd yng ngogledd Irac.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Explosion rocks Turkish capital, BBC (22 Mai 2007). Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Turkey Says Attack Was Suicide Bombing, The Washington Post (24 Mai 2007). Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Bomb in Turkish capital kills six, injures 80, Reuters (23 Mai 2007). Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.
  4. (Saesneg) Explosion strikes Turkish capital, Al Jazeera (22 Mai 2007). Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.
  5. 5.0 5.1 (Saesneg) Ankara suicide bomber identified, Al Jazeera (24 Mai 2007). Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.