Florrie Evans
Florrie Evans | |
---|---|
Ganwyd | 15 Rhagfyr 1884 Ceinewydd |
Bu farw | 11 Rhagfyr 1967 Ysbyty Glanelái |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | pregethwr, cenhadwr |
Diwygiwr a chenhades Cymreig oedd Annie Florence Evans a adnabyddir fel Florrie Evans (15 Rhagfyr 1884 – 11 Rhagfyr 1967), a gafodd y clod am gychwyn diwygiad Cymreig 1904–1905 .
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganed Evans yng Nghei Newydd i Margaret (ganwyd Jones) a David Owen Evans. Roedd ei thad yn forwyr a ddaeth yn gapten yn ddiweddarach. [1]
Un o arweinwyr amlwg y Diwygiad oedd pregethwr Methodistaidd Cei Newydd, a threfnodd Joseph Jenkins gynhadledd yng Nghei Newydd yn 1903 gyda'r thema o ddyfnhau teyrngarwch i Grist . Un bore Sul [2] yn Chwefror 1904 yn ystod un o gyfarfodydd y pregethwyr gwnaeth Evans ddatganiad syml: "Yr wyf fi'n caru Iesu Grist â'm holl galon!". Dywedwyd fod ei geiriau wedi gwneud argraff ar y cyfarfod ac mai dyma ddechrau diwygiad 1904.[1] Aeth aelodau ifanc o eglwys Joseph Jenkins, dan arweiniad Jenkins, i drefi a phentrefi eraill yn Nhe Ceredigion.[1][3]
Hyd at ddiwedd 1905 bu'n ymwneud â theithio i gefnogi'r diwygiad. Byddai’n teithio gyda Maud Davies oedd hefyd yn dod o Gei Newydd. Buont yn teithio ar hyd a lled Cymru, i Lundain ac roedd y daith olaf yng Ngogledd Cymru. Evans fyddai'n siarad â Maud Davies yn canu. [1]
Yn 1908 clywodd am adfywiad arall yn India ym Mryniau Khasis a gwnaeth gais i fod yn genhadwr gyda Chenhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd yn India. Derbyniwyd hi ac erbyn Nadolig 1908 [4] roedd wedi teithio ar yr SS City of Karachi i Sylhe. Cyflogwyd hi fel nyrs nes iddi fynd yn sâl y flwyddyn ganlynol. Adroddwyd bod anghydfod ac erbyn Medi 1911 roedd yn ôl yn ei thref enedigol.[1]
Bu farw Evans yn Ysbyty Glanely ar 11 Rhagfyr 1967.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 "EVANS, ANNIE FLORENCE ('Florrie') (1884 - 1967), diwygwraig a chenhades". Y Bywgraffiadur. Cyrchwyd 2022-09-04.
- ↑ Morgan, Robert J. (2008). My All in All: Daily Assurance of God's Grace (yn Saesneg). B&H Publishing Group. ISBN 978-0-8054-4663-0.
- ↑ "Welsh Churches". Church Growth Modelling (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-04.
- ↑ Morris, John Hughes (1996). The History of the Welsh Calvinistic Methodists' Foreign Mission: To the End of the Year 1904 (yn Saesneg). Indus Publishing. t. 325. ISBN 978-81-7387-049-1.