Heliwm
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | elfen gemegol, atmophile element |
---|---|
Math | Anfetel, Nwy nobl, s-block |
Màs | 4.002602 ±2e-06 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | He |
Dyddiad darganfod | 18 Awst 1868 |
Symbol | He |
Rhif atomig | 2 |
Trefn yr electronnau | 1s² |
Electronegatifedd | 4.5 |
Cyflwr ocsidiad | 4.5 |
Rhan o | Elfen cyfnod 1, Nwy nobl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nwy ysgafn di-liw yw heliwm, elfen gemegol yn nhabl cyfnodol gan symbol He
a rhif 2. Mae'n un o'r nwyon nobl ac yn elfen anadweithiol oherwydd bod ganddo blisgyn falens llawn. Gan ei fod yn anadweithiol a llai dwys nag aer defnyddir heliwm mewn balwnau tywydd. Er bo hydrogen yn nwy llai dwys, nid yw'n addas gan ei fod mor adweithiol a fflamadwy, priodweddau a bu arwain at ffrwydrad y llong awyr Hindenberg.
Mae'r enw yn dod o'r gair Groeg am "haul", sef ἥλιος (helios), achos y darganfuwyd e ar yr haul drwy ei sbectrwm, cyn iddo fo gael ei ddarganfod ar y ddaear. Fe'i ffurfir yng nghanol yr haul pan ydy hydrogen yn adweithio.