Intifada
Gwedd
Gair Arabeg modern sy'n golygu "ysgwyd rhywbeth i ffwrdd" ydy Intifada (انتفاضة intifāḍah) sydd hefyd, bellach, yn golygu "chwyldro" a "gwrthryfel".
Addasiad o'r gair (mewn cyd-destun genidol) yw Intifāḍat ("gwrthryfel"), ond mae'r gair Arabeg intifāḍāt (انتفاضات) yn gwbwl wahanol ac yn ffurf luosog y gair "gwrthwynebwyr".
Gall Intifada gyfeirio at y digwyddiadau hanesyddol hyn:
- Intifada Mawrth, gwrthryfel asgell chwith yn erbyn rheolaeth unbeniaethol Prydain yn Bahrain, 1965
- Zemla Intifada, yn erbyn rheolaeth unbeniaethol Sbaen yn y Spanish Sahara, Mehefin 1970
- Intifada Cyntaf y Palesteiniaid, gwrthryfel cyntaf y Palesteiniaid i ryddhau'r Tiriogaethau Palesteinaidd a ddygwyd gan Israel, 1987 - 1993
- Chwyldro Bahrain, 1990au, chwyldro'n hawlio dychwelyd at reolaeth ddemocrataidd
- Gwrthryfeloedd 1991 yn Irac yn erbyn Saddam Hussein
- Intifada Sahrawi Cyntaf - protestiadau yn Ne Moroco gan y Sahrawi
- Ail Intifada'r Palesteiniaid, cyfnod y trais rhwng y Palesteiniaid a'r Israeliaid, Medi 2000 - 2005
- Chwyldro'r Cedrwydd neu "Intifada of Independence", Lebanon wedi llofruddiaeth Rafiq Hariri yn 2005
- Yr Intifada Ffrengig, anesmwythdod yn Ffrainc, 2005.
- Yr Ail Intifada Sahrawi - terfysgoedd a phrotestiadau yn Ne Moroco a Gorllewin y Sahara, Mai 2005
- Y Gwanwyn Arabaidd, a gychwynodd ar 18 Rhagfyr 2010
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Yr Intifada electronaidd, cyhoeddiad ar-lein yn canolbwyntio ar wrthdaro Israel a Phalesteina
drwy lygad (neu berspectif) y Palesteiniaid