Janet Aethwy
Janet Aethwy | |
---|---|
Ganwyd | Janet Jones 1950s Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr theatr, llenor |
Adnabyddus am | Syth o'r Nyth |
Mae Janet Aethwy yn actores a chyfarwyddwraig o Gymru.
Personol
[golygu | golygu cod]Magwyd Janet Jones[1] ym Mhorthaethwy, Ynys Môn ac roedd ganddi deulu ym mhentref Bodedern ar yr Ynys. Dechreuodd ei diddordeb actio wrth iddi berfformio rhan Begw mewn cynhyrchiad ddrama o nofel Te yn y Grug gan Kate Roberts ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Porthaethwy 1976 pan oedd yn y chweched dosbarth (oddeutu 17-18 oed).[2] Roedd yn un o ysgrifenyddion cyntaf Aelwyd Menai.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Mae Janet wedi actio ar lwyfan a theledu ers 1980 a hynny yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Janet wedi ymddangos mewn amrywiaeth eang o ddramâu teledu yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dyma ddetholiad.[3]
- 35 Awr - rhan Heulwen (2019)
- Gwaith Cartref - rhan Siân Bowen-Harries (2016)
- Patagonia - rhan merch yr hen Mr Roberts (2010)
- Cowbois Ac Injans - cyfres deledu, rhan Delyth Rowlands (2006)
- Yr Heliwr - cyfres dditectif Gymraeg a Saesneg (1997-2002)
- Blood and Water - rhan Jeni Painter (2002)
- Teulu'r Mans - cyfres ddrama gomedi, rhan Mandi (1987-1993)
- Pris y Farchnad
- Ffwrdd â Ni - cyfres deledu
- Rala Rwdins - cyfres deledu, rhan Ceridwen (cyfres 2-3) (1996-1997)
- Y Blobs - animeddio, lleisiau (1997)
- The District Nurse - cyfres ddrama deledu, rhan Ruth Jones ac Eira Gwyn Jones (1984-1987)
- The Brief - cyfres deledu, rhan Cass Morgan (1984)
Cyfarwyddo
[golygu | golygu cod]Wedi 40 mlynedd o actio dechreuodd gyfarwyddo gan gyfarwyddo Estron sef drama lwyfan fuddugol Hefin Robertson o Eisteddfod Y Fenni, 2016.[4]
Llyfr
[golygu | golygu cod]Mae hi wedi cyd-ysgrifennu llyfr, Syth o'r Nyth gyda'r cyfarwyddwraig, Llio Sulyn yn 2004, Gwasg Gomer.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Janet Aethwy ar wefan Internet Movie Database
- Ffilmig hyrwyddo Theatr Genedlaethol Cymru o'r ddrama Estron