Llanegryn
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 308 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.62°N 4.07°W |
Cod SYG | W04000074 |
Cod OS | SH600054 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Pentref, chymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanegryn[1][2] ( ynganiad ). Saif ym Meirionnydd ar lan ddwyreiniol Dyffryn Dysynni tua chwarter milltir i'r gogledd o lôn yr A493, tua 3 milltir i'r gogledd o Dywyn, ar lethrau isaf yr Allt-lwyd, y bryn cyntaf yn yr esgair hir o fryniau sy'n dringo i gyfeiriad Cadair Idris. Mae Afon Dysynni yn llifo heibio i waelod y pentref.
Mae pont fwa yn croesi ffrwd fechan ar ymyl y pentref. Ychydig o dai sydd yn y pentref ei hun ond ceir tri chapel yno ynghyd â'r eglwys hynafol sy'n sefyll ychydig o'r neilltu i'r pentref ei hun. Mae'r lôn sy'n rhedeg trwy'r pentref yn eich tywys i fyny'r dyffryn i gyfeiriad Castell y Bere a Llanfihangel-y-pennant.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Yr eglwys
[golygu | golygu cod]Mae Eglwys y Santes Fair a Sant Egryn yn adeilad pur hynafol sy'n dyddio o'r 13g.[5] Eglwys un siambr ydyw gyda chlochdy bach yn y gorllewin. Prif ogoniant yr eglwys hon yw'r ysgrîn bren fendigedig sy'n dyddio o'r 15g; yn ôl traddodiad daeth i'r eglwys o Abaty Cymer, y tŷ Sistersiaidd ger Dolgellau. Ceir cofebion i aelodau o deulu Wynniaid Peniarth yn yr eglwys hefyd, e.e. yr un i Richard Owen (m. 1714).
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]
Lleoedd eraill
[golygu | golygu cod]- Tomen Ddreiniog - hen domen o'r Oesoedd Canol; tua kilometr i'r de
- Craig yr Aderyn - bryn trawiadol ar ochr arall Dyffryn Dysynni gyda chlogwyn anferth sy'n gartref i hebogion, bilidowcars a gwylanod, er ei bod yn 6 milltir o'r môr. Ceir geifr gwyllt arno yn ogystal.
- Peniarth - plasdy'r Wynniaid, tua milltir i'r dwyrain o'r eglwys
Pobl o Lanegryn
[golygu | golygu cod]- Hugh Hughes (1863-1944), cefnwr rygbi rhyngwladol i Gymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 23 Ionawr 2022
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ Hanes Dyffryn Dysynni. BBC Cymru. Adalwyd ar 4 Mai 2012.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
-
Porth Eglwys Llanegryn
-
John Pugh a gwraig yn Llanegryn tua 1885 ar ei geffyl a throl
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr