Marthe Bibesco
Marthe Bibesco | |
---|---|
Ffugenw | Lucile Decaux |
Ganwyd | Marthe Lucie Lahovary 28 Ionawr 1886 Bwcarést |
Bu farw | 28 Tachwedd 1973 4ydd arrondissement Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | bardd, awdur ysgrifau, nofelydd, llenor, cofiannydd |
Tad | Ioan Lahovary |
Priod | George Valentin Bibescu |
Plant | Valentine Bibesco |
Perthnasau | Constantin Lahovary |
Gwobr/au | Gwobr Marcelin Guérin, Gwobr Gustave Le Métais-Larivière, Chevalier de la Légion d'Honneur |
Awdures sosialaidd o Ffrainc a Rwmania oedd Marthe Bibesco (28 Ionawr 1886 - 28 Tachwedd 1973) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd, awdur ysgrifau, nofelydd, a chofiannydd. Gelwir hi hefyd yn "Marthe, Tywysogaes Bibesco"; Marthe Lucie; née Lahovary. Mae ei phapurau, ei gweithiau gwreiddiol, yng Nghanolfan Harry Ransom ym Mhrifysgol Texas, Austin, UDA. Bu'n briod i George Valentin Bibescu ac roedd Valentine Bibesco yn blentyn iddi.
Fe'i ganed yn Bwcarést ar 28 Ionawr 1886; bu farw ym Mharis. Roedd ei thad, a oedd wedi cael ei addysgu yn Ffrainc, yn gweithio fel gweinidog Teyrnas Rwmania ym Mharis ac yn ddiweddarach, fel gweinidog materion tramor Romania.[1][2][3][4][5][6]
Teulu a phriodi
[golygu | golygu cod]Ei henw bedydd oedd Marta Lucia Lahovary (a sillefir hefyd yn 'Lahovari'), a hi oedd trydydd plentyn Ioan Lahovary a'r Dywysoges Emma Mavrocordat. Treuliodd ei blynyddoedd cynnar ar Ystad Lahovary yn Balotești ac arfordir Ffrainc yn Biarritz. Yn 1900 cyfarfu â Thywosog Ferdinand, etifedd Coron Rwmania a dyweddiodd y ddau, yn dawel. Ond ar ôl blwyddyn, a hithau'n 17 oed, priododd Marthe gyda Thywysog George III Valentin Bibescu (Bibesco), disgynnydd un o deuluoedd cyfoethocaf y wlad.
Roedd yn rhugl mewn Ffrangeg yn ifanc iawn (hyd yn oed cyn iddi allu siarad Rwmanieg), a threuliodd Marthe flynyddoedd cyntaf ei phriodas gyda'i mam-yng-nghyfraith, y Dywysoges Valentine Bibesco (née iarlles Riquet de Caraman-Chimay), a'i haddysgwyd mewn materion Ewropeaidd, gan gynnwys hanes a llenyddiaeth Ewrop. ond cafodd addysg bur wahanol yn ogystal â hyn, gan werinwr hoffus o'r enw Baba Uta [Outza], a adroddodd iddi hen chwedlau gwerin Rwmania. Yn y cyfamser, roedd ei gŵr, George, yn mwynhau ceir cyflym a menywod eraill, ond yn ychwanegu at ffortiwn y teulu ar yr un pryd.
Yr awdures
[golygu | golygu cod]Yn 1908 cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, a oedd yn seiliedig ar un o'i theithiau; cafodd y gyfrol groeso a chanmoliaeth mawr gan y beirniaid llenyddol Ffrengig. Y llyfr, Les Huit Paradis ("Wyth Paradwys"), oedd cychwyn ei gyrfa lenyddol. Hi oedd Belle Epoque Paris, a chymdeithasodd yn hawdd ymysg y llenorion a'r gwleidyddion, fel y'i gilydd. Anrhydeddwyd hi gyda Gwobr Prix de l'Academie Française a chyfarfu a Marcel Proust, a ddanfonodd lythyr ati'n brolio ei llyfr: "Rwyt yn sgwennwr ardderchog, Dywysoges, a hefyd yn cerflunio geiriau, yn gerddor geiriau ac yn fardd!"
Aelodaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o Academi Frenhinol Gwlad Belg, iaith a llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [7][8]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Marcelin Guérin (1909), Gwobr Gustave Le Métais-Larivière (1966), Chevalier de la Légion d'Honneur[9] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2013. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Lucile Decaux". dynodwr VIAF. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marthe Bibesco".
- ↑ Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Lucile Decaux". dynodwr VIAF. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Marthe Bibesco". https://archives.paris.fr/arkotheque/visionneuse/visionneuse.php?arko=YTo2OntzOjQ6ImRhdGUiO3M6MTA6IjIwMjQtMDQtMzAiO3M6MTA6InR5cGVfZm9uZHMiO3M6MTE6ImFya29fc2VyaWVsIjtzOjQ6InJlZjEiO2k6NDtzOjQ6InJlZjIiO2k6MjcwMTQ0O3M6MTY6InZpc2lvbm5ldXNlX2h0bWwiO2I6MTtzOjIxOiJ2aXNpb25uZXVzZV9odG1sX21vZGUiO3M6NDoicHJvZCI7fQ==#uielem_move=-189%2C-355&uielem_islocked=0&uielem_zoom=169&uielem_brightness=0&uielem_contrast=0&uielem_isinverted=0&uielem_rotate=F. tudalen: 6. dyddiad cyrchiad: 30 Ebrill 2024.
- ↑ Man geni: https://archives.paris.fr/arkotheque/visionneuse/visionneuse.php?arko=YTo2OntzOjQ6ImRhdGUiO3M6MTA6IjIwMjQtMDQtMzAiO3M6MTA6InR5cGVfZm9uZHMiO3M6MTE6ImFya29fc2VyaWVsIjtzOjQ6InJlZjEiO2k6NDtzOjQ6InJlZjIiO2k6MjcwMTQ0O3M6MTY6InZpc2lvbm5ldXNlX2h0bWwiO2I6MTtzOjIxOiJ2aXNpb25uZXVzZV9odG1sX21vZGUiO3M6NDoicHJvZCI7fQ==#uielem_move=-189%2C-355&uielem_islocked=0&uielem_zoom=169&uielem_brightness=0&uielem_contrast=0&uielem_isinverted=0&uielem_rotate=F. tudalen: 6. dyddiad cyrchiad: 30 Ebrill 2024.
- ↑ Enw genedigol: https://archives.paris.fr/arkotheque/visionneuse/visionneuse.php?arko=YTo2OntzOjQ6ImRhdGUiO3M6MTA6IjIwMjQtMDQtMzAiO3M6MTA6InR5cGVfZm9uZHMiO3M6MTE6ImFya29fc2VyaWVsIjtzOjQ6InJlZjEiO2k6NDtzOjQ6InJlZjIiO2k6MjcwMTQ0O3M6MTY6InZpc2lvbm5ldXNlX2h0bWwiO2I6MTtzOjIxOiJ2aXNpb25uZXVzZV9odG1sX21vZGUiO3M6NDoicHJvZCI7fQ==#uielem_move=-189%2C-355&uielem_islocked=0&uielem_zoom=169&uielem_brightness=0&uielem_contrast=0&uielem_isinverted=0&uielem_rotate=F. tudalen: 6. dyddiad cyrchiad: 30 Ebrill 2024.
- ↑ Aelodaeth: http://www.arllfb.be/composition/successions.html. dyddiad cyrchiad: 1 Tachwedd 2015.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.leonore.archives-nationales.culture.gouv.fr/ui/notice/34213. dyddiad cyrchiad: 9 Chwefror 2022.
- ↑ https://www.leonore.archives-nationales.culture.gouv.fr/ui/notice/34213. dyddiad cyrchiad: 9 Chwefror 2022.