Mikhail Bakunin
Gwedd
Mikhail Bakunin | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mai 1814 Priamukhino |
Bu farw | 1 Gorffennaf 1876 Bern |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Rwsia, Ffrainc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, llenor, gwleidydd, anarchydd, chwyldroadwr |
Adnabyddus am | God and the State, Revolutionary Catechism, Statism and Anarchy |
Prif ddylanwad | E. T. A. Hoffmann, Alexander Ivanovich Herzen, Nikolay Ogarev, Pierre-Joseph Proudhon, Jean-Jacques Rousseau, Ludwig Feuerbach, Karl Marx, Georg Hegel, Fyodor Dostoievski |
Mudiad | anarchiaeth, anffyddiaeth, athroniaeth y Gorllewin |
Tad | Aleksandr Bakunin |
Mam | Varvara Muravyova |
Priod | Antonia Kwiatkowska |
Plant | Maria Bakunin, Giulia Sofia Bakunin |
Perthnasau | Renato Caccioppoli |
Llinach | Bakunin |
llofnod | |
Chwyldroadwr, anarchydd ac athronydd o Rwsia oedd Mikhail Bakunin (30 Mai 1814 - 1 Gorffennaf 1876). Dechreuodd yn genedlaetholwr cyn gwrdd â chyfoeswyr megis Karl Marx a'r anarchydd Pierre-Joseph Pruodhon ym Mharis yn yr 1840au. Datblygodd ei syniadau gan ddod yn anarchydd cyfunol - erbyn heddiw ystyrir yn dad i'r athrawiaeth gan nifer.[1]
Daeth yn un o brif gynrychiolwyr yr anarchwyr yn y Gymdeithas Ryngwladol Gyntaf tan ei ddiarddeliad gan Karl Marx a'i ddilynwyr yn 1872. Diffiniodd y rhwyg y wahaniaeth rhwng sosialaeth "wladwriaethol" Marcsiaeth a sosialaeth "gwrth-wladwriaethol" anarchiaeth, athrawiaethau oedd cynt yn weddol gydlynol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Categorïau:
- Egin Rwsiaid
- Anarchwyr o Rwsia
- Anffyddwyr o Rwsia
- Athronwyr gwleidyddol o Rwsia
- Athronwyr y 19eg ganrif o Rwsia
- Genedigaethau 1814
- Llenorion gwleidyddol o Rwsia
- Llenorion o Ymerodraeth Rwsia
- Marwolaethau 1876
- Pamffledwyr
- Sosialwyr o Rwsia
- Ysgrifwyr a thraethodwyr y 19eg ganrif o Rwsia
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Rwseg o Rwsia