Nunchaku
Arf yng nghrefft ymladd draddodiadol Okinawaidd ar ffurf dwy ffon sydd wedi'u cysylltu â'i gilydd gyda chadwyn fetel neu raff fer yw nunchaku. Mae dwy ran yr arf yn aml wedi'u gwneud o bren. Mae'r nunchaku yn cael eu defnyddio fwyaf mewn crefftau ymladd fel kobudō Okinawaidd a karate, ac yn cael ei ddefnyddio fel arf hyfforddi, gan ei fod yn hybu datblygiad cyflymder symudiadau'r dwylo ac yn gwella osgo. Heddiw, gellir gwneud nunchaku o fetel, pren, plastig neu wydr ffeibr. Mae fersiynau tegan ar gael sydd wedi'u gwneud o bolystyren neu blastig. Mae meddu'r arf yn anghyfreithlon mewn rhai gwledydd, oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion crefft ymladd proffesiynol.
Nid oes sicrwydd ynghylch union darddiad y nunchaku. Honnir bod ffermwyr Okinawaidd wedi'i addasu o declyn oedd yn cael ei ddefnyddio i ddyrnu reis, ac nad oedd yn arf poblogaidd iawn yn hanesyddol am nad oedd yn effeithiol yn erbyn arfau eraill fel cleddyfau samwrai, a phrin yw'r technegau hanesyddol ar gyfer ei ddefnyddio sydd wedi goroesi hyd heddiw.
Nid yw tarddiad y gair nunchaku (ヌンチャク) yn hysbys ychwaith. Un ddamcaniaeth yw ei fod wedi tarddu o ynganiad yr arwyddion Tsieiniaidd 双截棍 (math o ffon ddwy ran draddodiadol yn Tsieina) mewn tafodiaith De Fuji o'r iaith Tsieinieg (兩節棍). Mae damcaniaeth arall yn deillio o ddiffiniad y gair "nun" fel "efaill".