Neidio i'r cynnwys

Sara Lidman

Oddi ar Wicipedia
Sara Lidman
GanwydSara Adéla Lidman Edit this on Wikidata
30 Rhagfyr 1923 Edit this on Wikidata
Missenträsk Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mehefin 2004 Edit this on Wikidata
Umeå Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden
Alma mater
  • Prifysgol Uppsala Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Selma Lagerlöf, Gwobr Dobloug, Prif Gwobr Samfundet De Ni, Gwobr Lenyddol y Cyngor Nordig, doctor honoris causa, Medal Diwylliant ac Addysg, Gwobr Dobloug, Gwobr Aniara, Gwobr Llenyddiaeth Östersunds-Posten, Ivar-Lo-Preis, Hedenvind-plaketten, Moa-prisen, Q96068904, Q31889548 Edit this on Wikidata

Awdures a newyddiadurwr o Sweden oedd Sara Lidman (30 Rhagfyr 1923 - 17 Mehefin 2004).

Fe'i ganed yn Missenträsk yn Sir Västerbotten yng ngogledd Sweden a bu farw yn Umeå yng ngogledd-ddwyrain y wlad.[1][2][3][4][5]

Astudiodd ym Mhrifysgol Uppsala ond daeth ei hastudiaethau i ben pan ddaliodd y diciâu (yr hen enw oedd "y ddarfodedigaeth"). Daeth ei llwyddiant mawr cyntaf gyda'r nofel Tjärdalen. Yn y nofel hon ac yn ei hail nofel Hjortronlandet mae'n darlunio themâu fel dieithrio ac unigrwydd. Yn ei nofelau cynnar, mae'n canolbwyntio ar amodau anodd ffermwyr tlawd yn nhalaith gogleddol Västerbotten yn ystod y 19g.

Sara Lidman c. 1960

Y llenor

[golygu | golygu cod]

Gellid dadlau mai Sara Lidman yw un o awduron pwysicaf y Swedeg yn yr 20g. Mae hyn yn arbennig o wir oherwydd ei ffordd arloesol o gyfuno tafodiaith gydag iaith Feiblaidd mewn ffordd sy'n cysylltu dychymyg poblogaidd y werin gyffredin gyda'r byd ysbrydol, uwch. O ran ei phedair phedair nofel gyntaf, ysgrifennodd yn helaeth ar bynciau gwleidyddol, gyda thuedd sosialaidd yn nadreddu drwyddynt.

Ymgyrchodd yn frwd a chymerodd ran mewn protestiadau yn erbyn Rhyfel Fietnam; teithiodd yno a bu'n rhan o Dribiwnllys Russell. Felly hefyd De Affrica, a bu'n lladmerydd huawdl iawn yn erbyn apartheid. Lleisiodd ei barn dros lowyr streic 1969–1970 ac ymgyrchodd yn rhan o garfan Gomiwnyddol a thros materion amgylcheddol.

Rhwng 1977 a 1985 sgwennodd gyfres o saith nofel a oedd yn ymwenud â'r broses o goloneiddio Sweden.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gymdeithas Y Naw am rai blynyddoedd. [6][7]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Tjärdalen, 1953.
  • Hjortronlandet, 1955.
  • Regnspiran, 1958.
  • Bära mistel, 1960.
  • Jag och min son, 1961.
  • Med fem diamanter, 1964.
  • Samtal i Hanoi, 1966
  • Gruva, 1968
  • Marta, Marta, 1970, Drama.
  • Din tjänare hör, 1977.
  • Vredens barn, 1979.
  • Nabots sten, 1981.
  • Den underbare mannen, 1983.
  • Järnkronan, 1985.
  • Lifsens rot, 1996.
  • Oskuldens minut, 1999.
  • Kropp och själ, 2003.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_213. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
  3. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Gorffennaf 2024.
  4. Dyddiad geni: http://urn.nb.no/URN:NBN:no-nb_digibok_2008060900023#85. А. М. Прохорова, ed. (1969) (yn ru), Большая советская энциклопедия (3rd ed.), Moscfa: The Great Russian Encyclopedia, OCLC 14476314, Wikidata Q17378135 ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Sara Lidman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sara Lidman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sara Adela Lidman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Sara Lidman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sara Lidman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sara Adela Lidman". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Aelodaeth: http://www.samfundetdenio.se/.
  7. Anrhydeddau: http://norrlandsforbundet.se/wp-content/uploads/2017/03/Tidigare-pristagare-1953-2017.pdf.