Stuart Cable
Gwedd
Stuart Cable | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mai 1970 Cwmaman |
Bu farw | 7 Mehefin 2010 o clefyd y system gastroberfeddol Llwydcoed |
Label recordio | V2 Records |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | drymiwr |
Arddull | Britpop, roc amgen |
Prif ddylanwad | Led Zeppelin |
Cerddor o Gymru oedd Stuart Cable (19 Mai 1970 – 7 Mehefin 2010). Ef oedd drymiwr gwreiddiol y band Stereophonics rhwng 1996 a 2005. Cafodd ei fagu ym mhentref Cwmaman ger Aberdâr, ar yr un stryd a'i gyfaill, Kelly Jones sef prif leisydd a chyfansoddwr band y Stereophonics.
Ei farwolaeth
[golygu | golygu cod]Canfuwyd ei gorff yn ei gartref yn Llwydcoed ger Aberdâr am 5.30 y.b. ar 7 Mehefin 2010. Dywedodd Heddlu De Cymru nad oedd achos ei farwolaeth wedi cael ei benderfynu, ond nid oedd unrhyw amgylchiadau amheus. Clywodd y cwest i'w farwolaeth ei fod wedi tagu ar ei gyfog ei hun ar ddiwedd sesiwn yfed tri diwrnod, gan achosi gwenwyn alcohol.[1]
Teledu
[golygu | golygu cod]- Cable TV (2002)
- Cable Connects (2005)
Radio
[golygu | golygu cod]- Cable Rock
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Demons and Cocktails - My Life with the Stereophonics (2009)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Stuart Cable (Gwasg Prifysgol Cymru, 2009)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Stuart Cable ‘wedi tagu ar ei gyfog ei hun’ , Golwg360, 19 Hydref 2010. Cyrchwyd ar 24 Gorffennaf 2016.