Neidio i'r cynnwys

Svava Jakobsdóttir

Oddi ar Wicipedia
Svava Jakobsdóttir
Ganwyd4 Hydref 1930 Edit this on Wikidata
Neskaupstaður Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 2004 Edit this on Wikidata
Reykjavík Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, llenor Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd yr Althing Edit this on Wikidata

Un o Awduron mwyaf blaenllaw Gwlad yr Iâ oedd Svava Jakobsdóttir (4 Hydref 1930 - 21 Chwefror 2004) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ffemenist ac fel gwleidydd. Mae'i gwaith yn cael ddisgrifio fel "brand unigryw o swrealaeth".[1][2][3]

Fe'i ganed yn Neskaupstaður, o rhyw fil a hanner o bobl a leolir ar ochr ddwyreiniol yr ynys; bu farw yn y brifddinas, Reykjavík. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Smith, Massachusetts lle graddiodd ym 1952 mewn llenyddiaeth hynafol Gwlad yr Iâ.[4] Yna, astudiodd yng Ngholeg Somerville, Rhydychen.[5]

Roedd ei thad (Hans) Jakob Jónsson yn weinidog Lutheraidd.[6] Rhwng 1935 a 1940 bu ef a'i deulu'n byw yn Wynyard, Saskatchewan, Canada lle bu'n weinidog ar gynulleidfa Gwlad yr Iâ-Canadaidd.[7]

Roedd hi'n aelod o'r Alþingi, Senedd Gwlad yr Iâ, rhwng 1971 a 1979, fel aelod o'r blaid asgell chwith Alþýðubandalagið (Cynghrair y Bobl).[8]

Yr awdur

[golygu | golygu cod]

Ymhlith ei gweithiau mwyaf adnabyddus mae'r nofel Gunnlaðar saga ( Saga'rGunnlod ), y nofelig Leigjandinn (Y Lojar) a'r stori fer arswyd "Saga handa börnum" ("Stori i Blant"). Ar wahân i ryddiaith ysgrifennodd hefyd farddoniaeth a dramâu. Enillodd Wobr Henrik Steffens ym 1997.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Simmonds, J. (1999). Iceland. APA Publications. t. 93. ISBN 9780887291760. Cyrchwyd 2015-11-04.
  2. Dyddiad geni: "Svava JAKOBSDOTTIR". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Svava Jakobsdóttir". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Dyddiad marw: "Svava JAKOBSDOTTIR". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Svava Jakobsdóttir". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. www.goodreads.com; adalwyd 6 Awst 2019.
  5. "Svava Jakobsdóttir (Author of Gunnlaðar saga) |Goodreads profile". goodreads.com. Cyrchwyd 2015-11-04.
  6. Torfi Jónsson: Æviskrár samtídarmanna. Oliver Steins, Skuggsjá 1982–1984
  7. "Svava Jakobsdottir Biography | Dictionary of Literary Biography". bookrags.com. Cyrchwyd 2015-11-04.
  8. Literature.is page on Svava Jakobsdóttir Archifwyd 2009-11-17 yn archive.today