Parc Tawe
Mae Parc Tawe yn barc masnachu ac yn ardal adloniant yn Abertawe, Cymru. Fe'i lleolir yn ardal ddwyreiniol canol y ddinas ar lannau'r afon Tawe yng Nghwm Tawe Isaf.
Mae'r ardal yn cynnwys nifer o siopau "allan-o'r-ddinas" gyda meysydd parcio tu allan i'r ardal siopa. Un adeilad amlwg iawn yn yr ardal hwn yw Plantasia - tŷ gwydr mawr trionglog lle tyfir planhigion trofannol. Ceir sinema deg sgrîn a bowlio deg yno hefyd.
Arferai'r safle hwn fod yn un o ddociau dinas Abertawe - Doc y Gogledd. Agorwyd Doc y Gogledd ym 1852, gan ddod yn doc cyntaf o holl ddociau Abertawe. Yn ystod y 1930au, gwelwyd ffyrdd newydd o weithio ac arweiniodd hyn at lai o fasnachu a llongau mwy o faint. O ganlyniad i hyn, caewyd Doc y Gogledd a chafodd ei lenwi'n ddiweddarach. Am ddegawdau, roedd ardal Doc y Gogledd yn dir gwastraff, nes i'r ardal gael ei hail-ddatblygu ar ddiwedd y 1980au.
Rhennir Parc Tawe yn ddwy ardal siopa ar wahan, gyda heol yn eu gwahanu; ardal y Parc Tawe gwreiddiol a'r Parc Tawe Gogleddol mwy newydd. Mae'r unedau sydd wedi'u lleoli ym Mharc Tawe'n cynnwys Pizza Paradise, Joe's Ice Cream, Toys 'R' Us, Staples a Mothercare World. Mae'r mânwerthwyr yn y Parc Tawe Gogleddol yn cynnwys Homebase, Lidl, Outfit, JJB Sports, JD Sports, ...instore a Pets At Home.