Peggy Mitchell
Gwedd
Mae Margaret Ann "Peggy" Mitchell (née Martin; Butcher yn flaenorol) yn gymeriad dychmygol yn opera sebon boblogaidd y BBC, EastEnders. Yn wreiddiol chwaraewyd rhan Peggy Mitchell gan Jo Warne pan ymddangosodd ar y sgrîn am y tro cyntaf ar y 30ain o Ebrill 1991. Bryd hynny, gwelwyd Peggy Mitchell yn rheolaidd dros gyfnod o wythnosau. Ail-gyflwynwyd Peggy i'r gyfres ym 1994 ond y tro hwn gyda Barbara Windsor yn chwarae'r rhan. O'r foment honno ymlaen, daeth Peggy yn gymeriad rheolaidd ac mae Barbara Windsor yn parhau i chwarae'r rôl o hyd.