Pier y Mwmbwls
Math | pier |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Y Mwmbwls |
Sir | Y Mwmbwls, Y Mwmbwls |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 7.2 metr |
Cyfesurynnau | 51.5697°N 3.9803°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Mae Pier y Mwmbwls yn bier Fictoraidd 835 troedfedd/ 225 medr o hyd a gafodd ei adeiladu ym 1898. Fe'i lleolir yng nghornel de-ddwyreiniol Bae Abertawe ger pentref y Mwmbwls, Abertawe, Cymru.
Hanes
[golygu | golygu cod]Adeiladu
[golygu | golygu cod]Cynlluniwyd y pier gan W. Sutcliffe Marsh ac fe'i hyrwyddwyd gan John Jones Jenkins o Rheilffordd Rhondda a Bae Abertawe. Agorodd y pier ar y 10 Mai, 1898 ar gost o £10,000. Dyma oedd cyrchfan gorllewinol y rheilffordd gyntaf yn y byd ar gyfer teithwyr, Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls; roedd hefyd yn gyrchfan amlwg ar gyfer stemar olwyn y "White Funnel", gan fynd â thwristiaid ar hyd Afon Hafren a Môr Hafren.
Yn ei hanterth
[golygu | golygu cod]Derbyniodd "The Amusement Equipment Company" (AMECO) drwydded i weithredu o'r pier o'r 1 Hydref, 1937. Rhannwyd y pier yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond cafodd AMECO y rhydd-ddaliad ym 1957, gan ail-ddatblygu'r cyfleuster, gan ychwanegu man glanio i gychod. Adeiladwyd arcêd newydd ar du blaen y pier ym 1966. Gwariodd AMECO rhwng £25,000 a £30,000 yn flynyddol ar gynnal a chade ac i osod gwaith dur newydd rhwng 1975 a 1985.[1].
Ail-agor
[golygu | golygu cod]Caewyd y pier ar y 1 Hydref, 1987 am weddnewidiad o £40,000 a fyddai'n rhoi dur newydd o amgylch y fynedfa. Ail-agorwyd y pier ar ddydd Gwener y Groglith, 1988.
Erbyn heddiw, defnyddir y pier ar gyfer pysgota a thwristiaeth, am ei fod yn cynnig golygfeydd panoramig o Fae Abertawe gyda Goleudy'r Mwmbwls ar y naill ochr a Phort Talbot ar yr ochr arall. Mae'r pier bellach yn eiddo i'r teulu Bollom.
Defnyddir y tir ger y pier fel canolfan adloniant sy'n cynnwys bariau, tŷ bwyta, rinc sglefrio iâ (a agorwyd yn 2006) ac arcêd adloniant.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Seaside Piers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-20. Cyrchwyd 2009-06-07.