Prifysgol Cymru (etholaeth seneddol)
Prifysgol Cymru Etholaeth Prifysgol | |
---|---|
Creu: | 1918 |
Diddymwyd: | 1950 |
Math: | Tŷ'r Cyffredin |
Aelodau: | Un |
Cyn-etholaeth seneddol oedd Prifysgol Cymru. Roedd yn dychwelyd un Aelod i Dŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig. Yn wahanol i etholaethau eraill Cymru, nid oedd yn ardal ddaearyddol arbennig. Yr etholwyr oedd graddedigion Prifysgol Cymru.
Crewyd yr etholaeth gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Yn Etholiad Cyffrediol 1918 safodd Millicent Mackenzie yn erbyn John Herbert Lewis. Mackenzie oedd y fenyw cyntaf i sefyll am Etholiad Cyffredinol yng Nghymru[1]. Cafodd yr etholaeth ei dileu yn 1950 dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1948.
Aelodau Seneddol
[golygu | golygu cod]- 1918 – 1922: John Herbert Lewis (Rhyddfrydwr Cymblaid)
- 1922 – 1923: Thomas Arthur Lewis (Rhyddfrydwr Cenedlaethol)
- 1923 – 1924: George Maitland Lloyd Davies (Heddychwr Cristnogol, 1923-Chwefror 1924 / Plaid Lafur, Chwefror 1924-Hydref 1924)
- 1924 – 1943: Ernest Evans (Rhyddfrydwr)
- 1943 – 1950: William John Gruffydd (Rhyddfrydwr)
Canlyniad Etholiadau
[golygu | golygu cod]Etholiad 1918
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1918: Etholaeth Prifysgol Cymru
Nifer y pleidleiswyr 1,066 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | John Herbert Lewis | 739 | 80.8 | ||
Llafur | Millicent Mackenzie | 176 | 19.2 |
Etholiad 1922
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1922: Etholaeth Prifysgol Cymru
Nifer y pleidleiswyr 1,441 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydwr Cenedlaethol | Thomas Arthur Lewis | 497 | 39.5 | ||
Rhyddfrydol | Syr Ellis Jones Ellis-Griffith | 451 | 35.9 | ||
Llafur | Dr Olive Annie Wheeler | 309 | 24.6 |
Etholiad cyffredinol 1923: Etholaeth Prifysgol Cymru
Nifer y pleidleiswyr 1,992 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Heddychwr Cristionogol | George Maitland Lloyd Davies | 570 | 35.7 | ||
Rhyddfrydol | Y Parch J Jones | 560 | 35.1 | ||
Rhyddfrydwr Annibynnol | Major Jack Edwards | 467 | 29.2 |
Etholiad 1924
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1924: Etholaeth Prifysgol Cymru
Nifer y pleidleiswyr 2,252 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Ernest Evans | 1,057 | 59.4 | ||
Llafur | George Maitland Lloyd Davies | 721 | 40.6 |
Etholiad 1929
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1929: Etholaeth Prifysgol Cymru
Nifer Pleidleiswyr 3,623 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Ernest Evans | 1,712 | 63.5 | ||
Llafur | D Richards | 671 | 24.9 | ||
Ceidwadwyr | Syr C C Mansel | 314 | 11.6 | ||
Mwyafrif | 1,041 | ||||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiad 1931
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1931: Prifysgol Cymru
Nifer Pleidleiswyr 5,121 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Ernest Evans | 2,229 | 70.9 | ||
Plaid Cymru | Saunders Lewis | 914 | 19.1 | ||
Mwyafrif | 1,315 | ||||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiad 1935
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1935: Prifysgol Cymru
Nifer Pleidleiswyr 5,121 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Ernest Evans | 2,796 | 61.3 | ||
Llafur | I Davies | 1,768 | 38.7 | ||
Mwyafrif | 1,028 | ||||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Isetholiad 1943
[golygu | golygu cod]Ymddiswyddodd Ernest Evans o'r Senedd pan gafodd ei benodi yn farnwr llys sirol a galwyd isetholiad a gynhaliwyd rhwng 25 a 29 Ionawr 1943. Isetholiad sydd wedi dod yn chwedlonol yn hanes gwleidyddol Cymru oherwydd chwerwedd y frwydr rhwng W. J. Gruffydd yr ymgeisydd Rhyddfrydol (a chyn is-lywydd Plaid Cymru) a Saunders Lewis ymgeisydd Plaid Cymru.[2]
Doedd dim ymgeiswyr gan y Blaid Lafur na'r Blaid Geidwadol oherwydd cytundeb rhwng y pleidiau na fyddant yn ymladd isetholiadau yn erbyn ei gilydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[3]
Isetholiad Prifysgol Cymru 1943
Nifer Pleidleiswyr 11,079 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Yr Athro W. J. Griffith | 2,229 | 52.4 | ||
Plaid Cymru | Saunders Lewis | 1,330 | 22.4 | ||
Annibynnol | Alun Talfan Davies | 755 | 12.8% | ||
Llafur Annibynnol | E Davies | 634 | 10.7% | ||
Llafur Annibynnol | N L Evans | 101 | 1.7% | ||
Mwyafrif | 1,768 | 29.8% | |||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Etholiad 1945
[golygu | golygu cod]Etholiad cyffredinol 1945: Prifysgol Cymru
Nifer Pleidleiswyr 11,847 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | W. J. Griffith | 5,239 | 75.5 | ||
Plaid Cymru | Dr Gwenan Jones* | 1,696 | 24.5 | ||
Mwyafrif | 3,543 | ||||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
- Dr Gwenan Jones oedd yr ymgeisydd benywaidd cyntaf i ymladd etholiad Seneddol yn enw Plaid Cymru.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ymgeisydd benywaidd cyntaf Cymru". Prifysgol Caerdydd. Cyrchwyd 2020-04-21.
- ↑ http://www.cylchgrawnbarn.com/index.php?option=com_content&view=article&id=414:saunders-mae-rhywbeth-amdanat-ti&catid=108:medi&Itemid=336 Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd Ion 7 2014
- ↑ http://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Pleidleisio/Is/1943/index.htm adalwyd Ion 7 2014