Neidio i'r cynnwys

Ray Tomlinson

Oddi ar Wicipedia
Ray Tomlinson
GanwydRaymond Samuel Tomlinson Edit this on Wikidata
23 Ebrill 1941 Edit this on Wikidata
Amsterdam Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 2016 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Lincoln Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sefydliad Politec Rensselaer
  • Sefydliad Technoleg Massachusetts Edit this on Wikidata
Galwedigaethrhaglennwr, dyfeisiwr, dyfeisiwr patent, gwyddonydd cyfrifiadurol, cynllunydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • BBN Technologies Edit this on Wikidata
Adnabyddus ame-bost, TENEX Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Tywysoges Asturias am Umchwyl Technegol a Gwyddonol, Eduard-Rhein Cultural Award, Gwobr Hall of Fame y Rhyngrwyd, Gwobr Rhyngrwyd yr IEEE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://openmap.bbn.com/~tomlinso/ray/home.html Edit this on Wikidata

Rhaglennwr o'r Unol Daleithiau oedd Raymond Samuel Tomlinson (23 Ebrill 19415 Mawrth 2016) a ddatblygodd y system E-bost cyntaf ar rwydwaith yr ARPAnet, rhagflaenydd y Rhyngrwyd, yn 1971.[1] Hwn oedd y system gyntaf oedd yn gallu danfon negeseuon rhwng defnyddwyr ar gyfrifiaduron gwahanol wedi eu cysylltu gyda'r ARPAnet. (Cyn hynny, roedd hi'n bosib danfon e-bost i ddefnyddwyr ar yr un cyfrifiadur yn unig). I gyflawni hyn, defnyddiodd y symbol @ i wahanu'r defnyddiwr o enw'r peiriant, ac mae wedi ei ddefnyddio mewn cyfeiriadau e-bost byth ers hynny.[2] Mae Oriel Enwogion y Rhyngrwyd yn adrodd hanes ei waith ac mae'n dweud "Fe wnaeth rhaglen e-bost Tomlinson ddechrau chwyldro llwyr, gan newid yn sylfaenol y ffordd mae pobl yn cyfathrebu.[1]

Ganwyd Tomlinson yn Amsterdam, Efrog Newydd, ond symudodd ei deulu yn fuan i bentref bach Vail Mills, Efrog Newydd. Mynychodd ysgol Broadalbin Central yn nhref gyfagos Broadalbin, Efrog Newydd. Yn ddiweddarach aeth i Rensselaer Polytechnic Institute yn Troy, Efrog Newydd lle cymerodd ran mewn rhaglen gydweithredol gydag IBM. Derbyniodd radd Bagloriaeth mewn Gwyddoniaeth mewn peirianneg trydanol gan RPI yn 1963.

Ar ôl graddio o RPI, aeth i Massachusetts Institute of Technology i barhau ei addysg beirianneg drydanol. Yn MIT, gweithiodd Tomlinson yn y Grŵp Cyfathrebu Lleferydd a datblygodd syntheseinydd llais analog-digidol fel rhan o'i ymchwil Meistr. Derbyniodd radd Meistr yn y Gwyddorau mewn Peirianneg Drydanol yn 1965.

Yn 1967, ymunodd a'r cwmni technoleg Bolt, Beranek and Newman, nawr yn BBN Technologies, lle cyfrannodd at ddatblygiad y system weithredu TENEX yn cynnwys y systemau 'ARPANET Network Control Program' a 'TELNET'. Ysgrifennodd raglen trosglwyddo ffeiliau o'r enw CPYNET i drosglwyddo ffeiliau ar yr ARPANET. Gofynnwyd i Tomlinson newid rhaglen o'r enw SNDMSG, oedd yn danfon negeseuon i ddefnyddwyr eraill ar gyfrifiadur rhannu-amser, i redeg ar TENEX. Ychwanegodd god a gymerodd o CPYNET i SNDMSG fel bod negeseuon yn gallu cael eu danfon i ddefnyddwyr ar gyfrifiadurol arall - a felly yn 1971 danfonodd yr e-bost cyntaf ar draws rhwydwaith.

Bu farw Tomlinson ar fore Sadwrn, 5 Mawrth 2016 yn 74 mlwydd oed.[3]

Defnydd cyntaf o e-bost

[golygu | golygu cod]

Yr e-bost cyntaf ddanfonodd Tomlinson oedd e-bost brawf. Ni chadwyd yr e-bost ond dywedodd Tomlinson ei fod yn ddibwys, rhywbeth fel "QWERTYUIOP". Mae hyn yn cael ei cham-ddyfynnu yn aml fel "Yr e-bost cyntaf oedd QWERTYUIOP".[4] Yn ddiweddarach, dywedodd Tomlinson fod y negeseuon prawf yma yn "gwbl anghofiadwy, a felly rwy wedi ei anghofio nhw."[5]

I ddechrau, doedd ei system negesu e-bost ddim yn cael ei ystyried yn beth pwysig o gwbl. Pan ddangosodd Tomlinson y gwaith i'w gyd-weithiwr Jerry Burchfiel, dywedodd Tomlinson "Paid dweud wrth neb! Nid dyma beth rydyn ni i fod i weithio arno." [6]

Gwobrau ac anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Yn 2000 derbyniodd Wobr Arloeswr Cyfrifiadurol George R. Stibitz gan Amgueddfa Gyfrifiadurol Americanaidd (gydag Adran Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol yn Montana State University).[7]
  • Yn 2001 derbyniodd Wobr Webby Award o'r Academi Ryngwladol o Gelf a Wyddoniaeth Ddigidol am gyflawniad oes. Hefyd yn 2001 cafodd ei gyflwyno i Oriel yr Enwogion Cyn-fyfyrwyr Rensselaer.[8]
  • Yn 2002 fe wnaeth Cylchgrawn Discover ei wobrwyo gyda'i Gwobr Arloesedd .
  • Yn 2004, derbyniodd Gwobr Rhyngrwyd yr IEEE ynghyd â Dave Crocker.
  • Yn 2009, derbyniodd Tomlinson a Martin Cooper wobr Prince of Asturias am ymchwil wyddonol a technegol.[9]
  • Yn 2011, roedd yn rhif 4 ar restr MIT150 yn rhestru y 150 o arloeswyr a syniadau pwysicaf o MIT.
  • Yn 2012, cyflwynwyd Tomlinson i Oriel Enwogion y Rhyngrwyd gan Gymdeithas y Rhyngrwyd.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 "Official Biography: Raymond Tomlinson". Internet Hall of Fame. Cyrchwyd 6 March 2016.
  2. Ray Tomlinson. "The First Network Email". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-05-06. Cyrchwyd 2016-03-06.
  3. Evan Koblentz (March 5, 2016). "Email inventor Ray Tomlinson dies at 74". TechRepublic.
  4. Ray Tomlinson. "Frequently Made Mistakes". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-01. Cyrchwyd 2016-03-06.
  5. Mackey, Robert (2009-05-04). "Internet Star @ Least 473 Years Old". The New York Times. Cyrchwyd 2010-05-22.
  6. Sasha Cavender (October 5, 1998).
  7. "The Stibitz/Wilson Awards". American Computer & Robotics Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 6 March 2016.
  8. "Raymond S. Tomlinson: Inventor of Network Electronic Mail". Alumni Hall of Fame. Rensselaer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-09. Cyrchwyd 6 March 2016.
  9. "The fathers of the mobile phone and email, Prince of Asturias Award Laureates for Technical and Scientific Research" (Press release). Fundación Príncipe de Asturias. 2009-06-17. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2012-07-16. https://archive.today/20120716133104/http://fundacionprincipedeasturias.org/en/press/news/the-fathers-of-the-mobile-phone-and-email-prince-of-asturias-award-laureates-for-technical-and-scientific-research/. Adalwyd 2009-06-17.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]