Walton, Lerpwl
Gwedd
Math | dinas fewnol, ward, maestref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Lerpwl |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.443°N 2.955°W |
Cod OS | SJ365945 |
- Am leoedd eraill o'r un enw gweler Walton.
Ardal o Lerpwl, Glannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Walton. Fe'i lleolir i'r gogledd o Anfield ac i'r dwyrain o Bootle a Pharc Orrell. Yn gyffredinol, mae'n ardal gyda phoblogaeth uchel, gyda thrigolion o gefndiroedd ethnig amrywiol.
Pobl nodedig
[golygu | golygu cod]- Ganwyd y cyn-Beatle Syr Paul McCartney yn Ysbyty Walton
- Ganwyd John Birt, cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yn Ysbyty Walton.
- Ganwyd y bachgen bach a lofruddiwyd James Bulger yn Walton.
- Arferai Gerard Houllier, cyn-reolwr C.P.D. Lerpwl, ddysgu yn Ysgol Uwchradd Alsop.
- Ar hyn o bryd, triga Brian Jacques, awdur llyfrau i blant a chyflwynydd ar Radio City, yn Walton.
- Magwyd Paul Jewell, cyn-reolwr C.P.D. Wigan Athletic yn ardal Walton.
- Trigai John Melvin, gitarydd yn y band The Farm, yn Walton o 1982 tan 1998.
- Daeth y cyn-ddigrifwr Jimmy Mulville, o Walton.
- Ganwyd Heidi Range, un o'r Sugababes, yn Walton.
- Mynychodd y digrifwr Alexei Sayle, Ysgol Uwchradd Alsop pan oedd yn ei arddegau.
- Ganwyd y cyflwynydd teledu a chyn-actores ar Brookside Claire Sweeney yn Walton.
- Roedd yr actor Ricky Tomlinson, yn byw oddi-ar Queens Drive yn Walton ar ddiwedd y 1990au.
- Claddwyd Robert Noonan a ysgrifennodd The Ragged Trousered Philanthropists o dan yr enw Robert Tressell, ym Mynwent Walton. Roedd yn Lerpwl ac yn bwriadu mudo i'r Unol Daleithiau, ond bu farw cyn iddo gael cyfle i adael.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- MultiMap
- Oriel Stryd Lerpwl - Lerpwl 4 Archifwyd 2008-12-09 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Liverpool Pictoral: St. Mary's Archifwyd 2011-05-19 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Now And Then: North Liverpool Local History Archifwyd 2007-08-13 yn y Peiriant Wayback