Wicipedia:Cysylltwch â ni am gymorth
Gwedd
Blwch cymorth:
Mynegai: Tiwtorial · Canllaw Pum Munud · Cwestiynau Cyffredinol / FAQs · Gofynwch Gwestiwn · Geirfa · Y Ddesg Gymorth · Chwilio'r holl Pynciau |
Wicipedia:Cymorth |
Yn gyffredinol, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gallant ddatrys problemau maent yn eu canfod eu hunain ac fe'u hanogir i wneud hynny, neu geisio datrys yr anghydfod os oes anghydweld o fewn y Dudalen Sgwrs.
Mae gan ddefnyddwyr ddwy brif ffordd i gysylltu â Wicipedia:
- Y gymuned olygyddol sy'n gyfrifol am bron pob penderfyniad am gynnwys erthygl ac anghydfodau golygyddol. Ceir prosesau manwl i helpu datrys anghydfodau. Gyda'r mwyafrif llethol o achosion, caiff anghydfodau eu datrys gan y gymuned, yn ôl cytundeb cymunedol a gytunir gan Bolisïau a chanllawiau'r Wicipedia Cymraeg.
- Mae'r ebost mnewnol Wici (ewch i dudalen defnyddiwr ac fel arfer fe welwch ei ebost ar y chwith) yn galluogi rhai problemau i gael eu harchwilio gan y tîm ymateb gwirfoddol (e.e. Gweinyddwyr) mewn materion golygyddol a materion eraill sy'n effeithio ar gyfranwyr a darllenwyr. Mae'r ebost yn ddull effeithiol mewn achosion lle mae delio â'r sefyllfa mewn modd gyfrinachol yn bwysig. Gelwir y defnyddwyr profiadol hyn yn "dîm ymateb gwirfoddol".
Gwneir penderfyniadau golygyddol cyffredinol gan y gymuned olygyddol; byddant yn cynghori ac yn gweithredu mewn rhai achosion, ond ni fyddant yn anwybyddu nac yn newid penderfyniadau cymunedol heb fod cefnogaeth o'r gymuned.
Lle i fynd?
Y drefn arferol ydy: 1. Nodi'r ffeithiau ar y Dudalen Sgwrs neu'r Ddesg Gyfeiriol. 2. Nodi ar Sgwrs Wicipedia:Gweinyddwyr 3. Y Caffi 4. Mewn materion sensitif anfonwch ebost at un o'r tîm ymateb gwirfoddol. 5. Ebostiwch Wici Cymru: wicipediacymraeggmail.com
Pryd i beidio cysylltu efo ni
- Pan fo problem mewn erthygl amdanoch chi neu rywun rydych yn ei gynrychioli. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs. Os na chewch unrhyw ymateb rhowch {{Helpwch}} ar eich tudalen sgwrs, a bydd un o'n golygyddion profiadol yn ymweld â chi yno!
- Os oes angen cymorth gweinyddol arnoch yn benodol, rhowch {{Cymorthgweinyddol}} ar eich tudalen sgwrs.
- Mae problem mewn erthygl am eich menter, sefydliad neu gymdeithas. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar Dudalen Sgwrs yr erthygl neu'r Defnyddiwr, neu gofynwch gwestiwn yn Y Ddesg Gyfeirio.
- Pan fo camgymeriad neu wall ffeithiol mewn erthygl. Ateb: Cywirwch y ffaith a nodwch y gyfeiriadaeth sy'n profi eich bod yn gywir.
- Mae yna fandaliaeth megis gosod dwli mewn erthygl e.e. sylwadau neu ddelweddau. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs. Os nad yw hyn yn llwyddo yna cysylltwch gydag un o'r tîm ymateb gwirfoddol drwy ebost.
- Mae erthygl wedi defnyddio cynnwys sydd o dan hawlfraint person neu gorff arall a hynny heb ganiatâd. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs. Os nad yw hyn yn llwyddo yna cysylltwch gydag un o'r tîm ymateb gwirfoddol drwy ebost.
- Rydych chi eisiau dileu neu ddadwneud testun mewn erthygl. Ateb: Gwnewch hynny! Byddwch ddewr!
- Rydych chi eisiau gwneud cais i symud tudalen neu newid teitl yr erthygl. Ateb: Sgwennwch nodyn i'r perwyl ar y Dudalen Sgwrs.
Pryd i gysylltu efo ni
Os methwch gydag un o'r uchod yna cysylltwch â ni ar unwaith.
- Mae erthygl wedi defnyddio cynnwys sydd o dan hawlfraint person neu gorff arall a hynny heb ganiatad. Ateb: cysylltwch â'r tîm ymateb gwirfoddol ar unwaith neu Wici Cymru.
- Mae erthygl yn cynnwys testun a gredaf sy'n enllib. Cysylltwch â'r tîm ymateb gwirfoddol ar unwaith, neu ebostiwch Wici Cymru.
Nid yw fy mhroblem ar y rhestr
- Cymrwch olwg ar Cwestiynau cyffredin, neu holwch yn y Caffi.