Tîm pêl-droed cenedlaethol Cosofo
Llysenw(au) | Dardanët (Dardanians) | |||
---|---|---|---|---|
Conffederasiwn | UEFA (Ewrop) | |||
Hyfforddwr | Bernard Challandes | |||
Is-hyfforddwr |
Muharrem Sahiti Genc Hoxha | |||
Capten | Samir Ujkani | |||
Mwyaf o Gapiau | Samir Ujkani (17) | |||
Prif sgoriwr |
Albert Bunjaku Elba Rashani (3) | |||
Cod FIFA | KVX[1] | |||
Safle FIFA | 176 1 (15 Mawrth 2018) | |||
Safle FIFA uchaf | 164 (Hydref 2016, Mawrth 2017) | |||
Safle FIFA isaf | 190 (Gorffennaf–Awst 2016) | |||
Safle Elo | 117 (20 Mawrth 2018) | |||
Safle Elo uchaf | 102 (14 Chwefror 1993) | |||
Safle Elo isaf | 122 (Mehefin-Gorffennaf 2014) | |||
| ||||
Gêm ryngwladol gynaf | ||||
As FIFA member Kosovo 2–0 Ynysoedd Ffaro (Frankfurt, Germany; 3 Mehefin 2016) Permitted by FIFA Kosofo 0–0 Haiti (Mitrovica, Kosovo; 5 Mawrth 2014) Unofficial Albania 3–1 Kosovo (Tirana, Albania; 14 Chwefror 1993) | ||||
Y fuddugoliaeth fwyaf | ||||
Nodyn:Country data UN Kosovo 7–1 Monaco (Cap d'Ail, France; 22 April 2006) | ||||
Colled fwyaf | ||||
Kosovo 0–6 Croatia (Shkodër, Albania; 6 Hydref 2016) |
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Cosofo (Albaneg: Përfaqësuesja e futbollit të Kosovës, Serbeg: Фудбалска репрезентација Косова, trawslythreniad: Fudbalska reprezentacija Kosova) yn cynrychioli gwladwriaeth Cosofo. Fe'i rheoleiddir gan Ffederasiwn Bêl-droed Cosofo ac maent yn aelod o UEFA a FIFA ers Mai 2015.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Cyn cyfnod annibyniaeth Cosofo roedd sgwadiau Tîm pêl-droed cenedlaethol Iwgoslafia, yna tîm gwladwriaeth Serbia a Montenegro, yn cynnwys chwaraewyr yn ei carfan. Chwaraewyr megis Fadil Vokrri a Stevan Stojanović. Roedd tri chwaraewr o Cosofo (Milutin Šoškić, Fahrudin Jusufi a Vladimir Durković) yn rhan o dîm Iwgoslafia a enillodd y fedal aur yng Gemau Olympaidd 1960 a'r fedal arian ym Mhencampwriaeth Ewrop yn yr un flwyddyn.
Sefydlu'r Tîm Cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Fe sefydlwyd tîm cenedlaethol answyddogol Cosofo yn dilyn cwymp Iwgoslafia gan ar ddechrau'r 1990au. Roedd y rhan fwyaf o'r gemau yma yn erbyn timau clwb, er i sawl gêm hefyd gael eu chwarae yn erbyn timau cenedlaethol eraill. Chwaraewyd saith gêm answyddogol rhwng 1993 a 2010. Cynrychiolwyd Cosofo gan chwaraewyr o dras ethnig Albanaidd a oedd yn gymwys i chwarae i dimau cenedlaethol eraill (e.e. Albania, neu gwledydd megis y Swistir lle magwyd hwy ar wasgar).
Aelodaeth UEFA a FIFA
[golygu | golygu cod]Ymgeisiodd Gymdeithas Bêl-droed Cosofo am gydnabyddiaeth swyddogol gan FIFA ar 6 Mai 2008 yn dilyn datganiad annibyniaeth y wlad ond fe'i gwrthodwyd.
Ar 21 Mai 2012, penderfynodd Pwyllgor Gweithredol FIFA (y corff pêl-droed byd-eang) ganiatáu i dîm pêl-droed Cosofo gynnal gemau cyfeillgar yn erbyn timau cenedlaethol eraill. Cyfarfu'r penderfyniad hwn â gwrthwynebiad ffyrnig gan Gymdeithas Pêl-droed Serbia, ond hefyd UEFA (corff pêl-droed Ewrop), gan nad oeddynt wedi ymgynghori â Serbia. Ar 17 Gorffennaf 2012, penderfynodd Pwyllgor Gweithredol FIFA ohirio'r ddadl ar sut i weithredu'r penderfyniad rhwng Mai a Medi 2012. Ni wnaed unrhyw benderfyniad yn y cyfamser, ond ym mis Rhagfyr 2012 penderfynodd y Pwyllgor Gwaith y dylid caniatáu clybiau Cosofo a phob detholiad, heblaw am uwch dîm y dynion, i chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn aelodau eraill FIFA.
Ar 13 Ionawr 2014, caniataodd Pwyllgor Brys FIFA i glybiau a thimau'r ffederasiwn Cosofo gystadlu mewn gemau cyfeillgar rhyngwladol yn erbyn cymdeithasau oedd yn aelodau o FIFA. [8] Gwaharddwyd arddel symbolau cenedlaethol megis chwifio'r faner genedlaethol, canu'r anthem neu wisgo crys gyda bathodyn genedlaethol.[3][4]. Cynhaliwyd y cyntaf o'r gemau cyfeillgar (dan ganiatâd FIFA) ar 5 Fawrth 2014, sef gêm yn erbyn Haiti yn ninas Mitrovica. Chwaraewyd y gêm o flaen o tua 17,000 o wylwyr yn Stadiwm Adem Jashari a'r sgôr terfynol, siomedig oedd, 0: 0.
Ar 3 Mai 2016, mewn cyfarfod yn Budapest penderfynodd UEFA i dderbyn Cosofo yn swyddogol fel y 55fed aelod, gyda 28 yn pleidleisio o blaid a 24 yn erbyn.[5]. Daeth Cosofo felly yn 55ed aelod UEFA.
Derbyniwyd Cosofo fel 210fed aelod FIFA yn fuan wedyn mewn cyfarfod ym Mecsico ar 13 Mai 2016 gan 141 pleidlais o blaid a 23 yn erbyn.[6]. Yn yr un cyfarfod derbyniwyd Gibraltar fel aelod rhif 221.
Gemau Swyddogol Cychwynnol
[golygu | golygu cod]Roedd y gêm brawf swyddogol ryngwladol gyntaf fel aelod o FIFA ar 3 Mehefin 2016 yn y Volksbank Stadion yn Frankfurt yn yr Almaen. Roedd y gêm yn erbyn Tîm pêl-droed cenedlaethol Ynysoedd Faroe. Cosofo a enillodd y gêm hanesyddol yma, 2-0. Ar 14 Gorffennaf 2016, rhestrwyd y tîm am y tro cyntaf yn Safle detholion y Byd, FIFA. Roed Cosofo wedi dringo i 190eg lle.
Bydd Kosovo nawr yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd ac Ewro.
Ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 bu'n rhaid i'r tîm chwarae ei gemau cartref yn Albania gan nad oedd stadiymau Cosofo yn bodloni safonau FIFA. Cymhwysodd Cosofo ar gyfer Cwpan y Byd 2018, gan ymuno â Grwp I. Timau eraill y Grŵp oedd: Tîm pêl-droed cenedlaethol Twrci, Tîm pêl-droed cenedlaethol y Ffindir, Tîm pêl-droed cenedlaethol yr Wcráin, Tîm pêl-droed cenedlaethol Gwlad yr Iâ, a Tîm pêl-droed cenedlaethol Croatia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Dryomin, Mark; Tabeira, Martin; Lozano, Carles; Jeffree, Iain (2 Mehefin 2016). "FIFA Country Codes". rsssf.com. RSSSF. Cyrchwyd 8 Mehefin 2016.
- ↑ Kosovo, Gibraltar join FIFA before 2018 World Cup qualifying Daily Mail
- ↑ "FIFA allows Kosovo to play friendly matches". Reuters UK (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-16. Cyrchwyd 18 Mehefin 2016.
- ↑ "FIFA Emergency Committee confirms friendly matches involving clubs and representative teams of Kosovo". FIFA.com. 13 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2018-03-24.
- ↑ "Kosovo accepted as member of Uefa after Congress vote". theguardian.com. The Guardian. 3 Mai 2016. Cyrchwyd 3 Mai 2016.
- ↑ "Zyrtare: Kosova pranohet në FIFA, jemi të barabartë me të gjitha vendet e botës – Telegrafi". Telegrafi (yn Saesneg). 13 Mai 2016. Cyrchwyd 18 Mehefin 2016.