Tîm pêl-droed cenedlaethol Liechtenstein
Shirt badge/Association crest | |||
Llysenw(au) | Y Glas-Coch (Blau-Rot) | ||
---|---|---|---|
Conffederasiwn | UEFA (Europe) | ||
Hyfforddwr | Rene Pauritsch | ||
Capten | Peter Jehle | ||
Mwyaf o Gapiau | Peter Jehle (126) | ||
Prif sgoriwr | Mario Frick (16) | ||
Cod FIFA | LIE | ||
Safle FIFA | 186 3 (1 Mehefin 2017) | ||
Safle FIFA uchaf | 118 (Ionawr 2008, Gorffennaf 2011, Medi 2011) | ||
Safle FIFA isaf | 189 (Tachwedd–Rhagfyr 2016, Ebrill–Mai 2017) | ||
Safle Elo | 172 (28 Mai 2017) | ||
Safle Elo uchaf | 150 (Medi 2011) | ||
Safle Elo isaf | 184 (Medi 2004) | ||
| |||
Gêm ryngwladol gynaf | |||
Liechtenstein 0–1 Switzerland "B" (Balzers, Liechtenstein; 9 Mawrth 1982)[1] | |||
Y fuddugoliaeth fwyaf | |||
Lwcsembwrg 0–4 Liechtenstein (Luxembourg, Luxembourg; 13 Hydref 2004) | |||
Colled fwyaf | |||
Liechtenstein 1–11 Macedonia (Eschen, Liechtenstein; 9 Tachwedd 1996) |
Y tîm sydd yn cynrychioli Liechtenstein yn y byd pêl-droed yw tîm pêl-droed cenedlaethol Liechtenstein (Almaeneg: Liechtensteinische Fussballnationalmannschaf) ac maent yn dod o dan reolaeth Cymdeithas Bêl-droed Liechtenstein (LFV), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r LFV yn aelodau o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop, (UEFA). Cynhaliwyd gêm gyntaf y tîm n 1981; gêm answyddogol yn erbyn tîm genedlaethol Malta yn Seoul, a'r sgôr oedd 1-1. Daeth eu gêm swyddogol gyntaf yn 1983 yn erbyn y Swistir, gyda Liechtenstein yn colli 0-1. Enilliad fwyaf Liechtenstein oedd 4-0 yn erbyn tîm bêl-droed genedlaethol Lwcsembwrg ar 13 Hydref 2004, mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan FIFA y Byd. Dyma oedd buddugoliaeth oddi cartref gyntaf erioed a'r fuddugoliaeth gyntaf mewn unrhyw gêm rhagbrofol i Gwpan y Byd. Y sgôr waethaf i Liechtenstein ddioddef oedd colli 11-1 yn erbyn tîm bêl-droed genedlaethol Macedonia yn 1996 mewn gêm ragbrofol i Gwpan y Byd 1998. Dyma hefyd oedd buddugoliaeth orau Macedonia.
Mae rhai o chwaraewyr y tîm cenedlaethol yn dal i chwarae i unig dîm broffesiynol y wlad, FC Vaduz, ond bydd eraill yn chwarae y tu allan i'r Dywysogaeth.
Nid yw Liechtenstein erioed wedi cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd na Phencampwriaethau Pêl-droed Ewrop.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae Liechtenstein yn newydd-ddyfodiaid i bêl-droed ryngwladol a heb gystadlu ar gyfer unrhyw gystadleuaeth ryngwladol nes gemau rhagbrofol at Euro 1996 UEFA. Llwyddasant i synnu pawb wrth ddal tîm Gweriniaeth Iwerddon i gêm gyfartal ddisgor, 0-0 ar 3 Mehefin 1995. Ar 14 Hydref 1998 fe guron nhw Azerbaijan, 2-1 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Euro 2000 UEFA.
Ers hynny, mae presenoldeb rhia chwaraewyr ar y safon uwch medis Mario Frick wedi gweld datblygiad yn y tîm cenedlaethol. Mae tîm y brifddinas, FC Vaduz, hefyd yn chwarae yn uwchgynghrair y Swistir sy'n hwb i'r tîm cenedlaethol. Maent wedi curo Lwcsembwrg ddwy waith a chael gemau cyfartal yn erbyn Slofacia a Phortiwgal yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2006 UEFA gan orffen yr ymgyrch ar 8 pwynt.
Record Liechtenstein yn erbyn pob Gwlad
[golygu | golygu cod]Yn erbyn | Chwarae | Ennill | Cyfartal | Colli | GF | GA | GD |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Albania | 2 | 0 | 0 | 2 | 0 | 4 | −4 |
Andorra | 1 | 1 | 0 | 0 | 1 | 0 | +1 |
Awstralia | 1 | 0 | 0 | 1 | 1 | 3 | −2 |
Awstria | 9 | 0 | 0 | 9 | 1 | 36 | −35 |
Aserbaijan | 5 | 1 | 1 | 3 | 2 | 8 | −6 |
Belarws | 1 | 0 | 0 | 1 | 1 | 5 | −4 |
Bosnia-Hertsegofina | 6 | 0 | 1 | 5 | 2 | 23 | −21 |
Croatia | 2 | 0 | 0 | 2 | 2 | 8 | −6 |
Y Weriniaeth Tsiec | 2 | 0 | 0 | 2 | 0 | 4 | −4 |
Denmarc | 3 | 0 | 0 | 3 | 0 | 13 | −13 |
Lloegr | 2 | 0 | 0 | 2 | 0 | 4 | −4 |
Estonia | 5 | 0 | 1 | 4 | 2 | 10 | −8 |
Y Ffindir | 2 | 0 | 1 | 1 | 2 | 3 | −1 |
Ynysoedd Ffaro | 4 | 0 | 0 | 4 | 3 | 8 | −5 |
Georgia | 1 | 0 | 0 | 1 | 0 | 2 | −2 |
Yr Almaen | 4 | 0 | 0 | 4 | 3 | 27 | −24 |
Gibraltar | 1 | 0 | 1 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Gwlad Groeg | 3 | 0 | 0 | 3 | 0 | 5 | −5 |
Hwngari | 3 | 0 | 1 | 2 | 0 | 10 | −10 |
Iwerddon | 4 | 0 | 1 | 3 | 0 | 14 | −14 |
Gwlad yr Iâ | 7 | 1 | 2 | 4 | 5 | 16 | −11 |
Israel | 3 | 0 | 0 | 3 | 1 | 7 | −6 |
yr Eidal | 1 | 0 | 0 | 1 | 0 | 4 | −4 |
Lithwania | 6 | 1 | 1 | 4 | 3 | 8 | −5 |
Lwcsembwrg | 3 | 2 | 1 | 0 | 10 | 3 | +7 |
Latfia | 9 | 1 | 1 | 7 | 4 | 15 | −11 |
Macedonia | 6 | 0 | 1 | 5 | 4 | 23 | −19 |
Malta | 3 | 0 | 1 | 2 | 3 | 10 | −7 |
Moldofa | 2 | 1 | 1 | 0 | 2 | 1 | +1 |
Montenegro | 2 | 0 | 1 | 1 | 0 | 2 | −2 |
Yr Iseldiroedd | 1 | 0 | 0 | 1 | 0 | 3 | −3 |
Gogledd Iwerddon | 4 | 1 | 0 | 4 | 6 | 17 | −11 |
Gwlad Pwyl | 1 | 0 | 0 | 1 | 0 | 2 | −2 |
Portiwgal | 7 | 0 | 1 | 6 | 3 | 35 | −32 |
Rwmania | 4 | 0 | 0 | 4 | 1 | 26 | −25 |
Rwsia | 5 | 0 | 0 | 5 | 1 | 15 | −14 |
San Marino | 4 | 2 | 1 | 1 | 4 | 3 | +1 |
Sawdi Arabia | 1 | 1 | 0 | 0 | 1 | 0 | +1 |
yr Alban | 2 | 0 | 0 | 2 | 1 | 3 | −2 |
Sbaen | 7 | 0 | 0 | 7 | 0 | 31 | −31 |
Slofacia | 9 | 0 | 2 | 7 | 1 | 26 | −25 |
Sweden | 4 | 0 | 0 | 4 | 1 | 10 | −9 |
Nodyn:Country data SWI | 8 | 0 | 0 | 8 | 1 | 21 | −20 |
Twrci | 2 | 0 | 0 | 2 | 0 | 8 | −8 |
Unol Daleithiau America | 1 | 0 | 0 | 1 | 1 | 4 | −3 |
Cymru | 3 | 0 | 0 | 3 | 0 | 8 | −8 |
Total | 169 | 11 | 20 | 138 | 69 | 491 | −422 |
Record Cwpan y Byd
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Rownd | Safle | E | GG | C | GS | GE |
---|---|---|---|---|---|---|---|
1930 to 1994 | Heb Gystadlu | - | - | - | - | - | - |
1998 | Heb fynd drwyddo | 6ed, olaf (qualifying) | 0 | 0 | 10 | 3 | 52 |
2002 | Heb fynd drwyddo | 5ed, olaf (qualifying) | 0 | 0 | 8 | 0 | 23 |
2006 | Heb fynd drwyddo | 6ed o 7 (qualifying) | 2 | 2 | 8 | 13 | 23 |
2010 | Heb fynd drwyddo | 6ed, olaf (qualifying) | 0 | 2 | 8 | 2 | 23 |
2014 | Heb fynd drwyddo | 6ed, olaf (qualifying) | 0 | 2 | 8 | 4 | 25 |
2018 | Heb fynd drwyddo | 6ed, olaf (qualifying) | 0 | 0 | 6 | 1 | 24 |
Cyfanswm | 0/21 | 2 | 6 | 48 | 23 | 170 |
Record Pencampwriaeth Ewrop
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Rownd | Safle | E | GG | C | GS | GE |
---|---|---|---|---|---|---|---|
1960 to 1992 | Heb gystadlu | - | - | - | - | - | - |
1996 | Heb fynd drwyddo | 6ed, olaf (qualifying) | 0 | 1 | 9 | 1 | 40 |
2000 | Heb fynd drwyddo | 6ed, olaf (qualifying) | 1 | 1 | 8 | 2 | 39 |
2004 | Heb fynd drwyddo | 5th, olaf (qualifying) | 0 | 1 | 7 | 2 | 22 |
2008 | Heb fynd drwyddo | 7fed, olaf (qualifying) | 2 | 1 | 9 | 9 | 32 |
2012 | Heb fynd drwyddo | 5ed, olaf (qualifying) | 1 | 1 | 6 | 3 | 17 |
2016 | Heb fynd drwyddo | 5ed o 6 (qualifying) | 1 | 2 | 7 | 2 | 26 |
Cyfanswm | 0/15 | 5 | 7 | 46 | 19 | 176 |
Mewn llenyddiaeth
[golygu | golygu cod]Yn sgil aflwyddiant cyson y tîm, penderfynodd yr llenor Saesneg, Charlie Connelly, ddilyn ymgyrch cystdlu yng Nghwpan y Byd 2002. Cyhoeddwyd ei brofiadau yn ei lyfr Stamping Grounds: Liechtenstein's Quest for the World Cup. Collodd Liechtenstein pob un gêm heb sgorio'r un gôl.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Liechtensteiner Fussballverbund
- Die Elf, ffilm ddogfen am y tîm genedlaethol Liechtenstein Archifwyd 2013-08-20 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
|
- ↑ Garin, Erik. "Liechtenstein – International Results". RSSSF. Cyrchwyd 13 Tachwedd 2010.