Neidio i'r cynnwys

Tucson

Oddi ar Wicipedia
Tucson
Mathdinas fawr, dinas yn yr Unol Daleithiau, tref ddinesig Edit this on Wikidata
Poblogaeth542,629 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1775 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRegina Romero Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmerica/Phoenix, UTC−07:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Pécs, Nouakchott, Fiesole, Segovia, Hermosillo, Almaty, Sulaymaniyah, Ciudad Obregón, Guadalajara, Trikala Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSouth Central Arizona Edit this on Wikidata
SirPima County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd598.609855 km², 588.015521 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr728 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.2217°N 110.9264°W Edit this on Wikidata
Cod post85701–85775, 85701, 85703, 85707, 85709, 85710, 85711, 85716, 85718, 85721, 85723, 85725, 85727, 85730, 85733, 85736, 85740, 85742, 85745, 85749, 85751, 85754, 85758, 85760, 85762, 85764, 85765, 85768, 85769, 85774 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Mayor of Tucson, Arizona Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRegina Romero Edit this on Wikidata
Map

Dinas yw Tucson yn nhalaith Arizona, yr Unol Daleithiau (UDA), sy'n ddinas sirol Pima County. Fe'i lleolir 118 milltir (188 km) i'r de-ddwyrain o Phoenix a 60 milltir (98 km) i'r gogledd o'r ffin rhwng UDA a Mecsico. Poblogaeth: 525,529 (2006) gyda 1,023,320 yn byw yn yr ardal fetropolitaidd (2008). Yn 2005, Tucson oedd y ddinas 32fed fwyaf yn yr Unol Daleithiau a'r 52fed fwyaf ardal fetropolitaidd. Hi yw'r ddinas fwyaf yn ne Arizona a'r ail fwyaf yn y dalaith gyfan. Lleolir Prifysgol Arizona yn Tucson. Mae'n gorwedd ar lannau Afon Santa Cruz.

Mae'r maesdrefi mawr yn cynnwys Oro Valley, Marana, Sahuarita, a South Tucson. Mae cymunedau cyfagos, rhai ohonynt yn rhannol yn y ddinas, yn cynnwys Casas Adobes, Catalina, Catalina Foothills, Flowing Wells, Green Valley, Tanque Verde, New Pascua, Vail a Benson.

Mae'r enw Tucson yn deillio o'r enw Sbaeneg ar y ddinas, Tucsón, a fenthycwyd o'r enw O'odham (Indiaidd) Cuk Ṣon, sy'n golygu "wrth odre'r [mynydd] du", sy'n gyfeiriad at fynydd folcanig ger llaw. Yn Arizona, cyfeirir at Tucson weithiau fel "The Old Pueblo".

Gefeilldrefi Tucson

[golygu | golygu cod]
Gwlad Dinas
Yr Eidal Fiesole
Mecsico Ciudad Obregón, Sonora
Casachstan Almaty
Iwerddon Swydd Roscommon
Tsieina Liupanshui
Mawritania Nouakchott
Hwngari Pécs
Sbaen Segovia, Castilla y León
Irac Sulaymaniyah, Cyrdistan
Taiwan Taichung
Gwlad Groeg Trikala
Brasil João Pessoa

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]