Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Meic Povey |
Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Ionawr 2000 |
Pwnc | Dramâu Cymraeg |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780863815973 |
Tudalennau | 76 |
Cyfres | Cyfres i'r Golau |
Drama Gymraeg gan Meic Povey yw Yn Debyg Iawn i Ti a Fi. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2000, ac mae'n rhan o'r Gyfres I'r Golau. Drama hir i bedwar cymeriad yn trafod pwnc sgitsoffrenia. Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws ym 1995, cyn i Theatr Genedlaethol Cymru ei ail-lwyfannu fel eu cynhyrchiad cyntaf yn 2003.
Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Teulu yn dod at ei gilydd ar ôl claddu'r fam, yw plot y ddrama, a'r broblem fawr i'w datrys yw pwy sy'n mynd i edrych ar ôl y mab sy'n dioddef o sgitsoffrenia.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Derec - y mab sgitsoffrenig
- Olwen - ei chwaer
- Glyn - ei frawd
- Elin - gwarig Glyn
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]1990au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws ym 1995.
- Derec - Merfyn Pierce Jones
- Olwen - Catherine Aran
- Glyn - Maldwyn John
- Elin -
2000au
[golygu | golygu cod]Ail lwyfannwyd y ddrama yn 2003, fel cynhyrchiad agoriadol Theatr Genedlaethol Cymru. Ehangodd y cyfarwyddwr Cefin Roberts y ddrama wreiddiol, gan greu rhanau ychwanegol ar ffurf corws Groegaidd, i'w bedwar actor craidd. Cyfarwyddwr Cefin Roberts; cynllunydd; cast:
- Derec - Glyn Pritchard
- Olwen - Gwenno Elis Hodgkins
- Glyn - Bryn Fôn
- Elin - Siw Huws
- Cymeriadau eraill : Owen Arwyn, Dave Taylor, Carys Eleri Evans a Rhian Blythe.
“Ar ddechrau cyfnod hanesyddol i ni fel cwmni mae medru llwyfannu drama mor bwerus â hon, gyda Bryn Fôn, Siw Hughes, Gwenno Hodgklns a Glyn Pritchard yn y cast, yn rywbeth cyffrous iawn“ meddai Cefin Roberts.[2] Dywedodd na fu'n anodd dewis y ddrama arbennig hon ar gyfer eu cynhyrchiad cyntaf : "Yr oedd yn hawdd, oherwydd mae'n chwip o ddrama - yn ddrama rymus," meddai gan gyfeirio'n arbennig at yr her yr oedd yn ei chynnig i actorion a chynulleidfa. "Yr oedd yn her inni gyd - ac mae hynny'n well na bod yn rhy sâff - ac fe gymerodd yr actorion yr her ac mae hynny gymaint gwell na chynnig rhywbeth hawdd dygymod â fo," meddai.[3]
Ymateb cymysg gafodd y cynhyrchiad; roedd hi'n anodd ei adolygu'n deg, gan ei fod yn ddathliad o gychwyn Theatr Genedlaethol newydd i Gymru ar un llaw, ac eto'n "gawl eildwym" i eraill, fel adolygydd theatr Y Cymro, Paul Griffiths.[4] Cael ei blesio wnaeth y darlledwr Jon Gower : "...Roedd yr actorion yn chwarae cyn dynned ag unrhyw bedwarawd llinynnol. [...] Marciau llawn i Cefin Roberts, y cyfarwyddwr artistig hefyd am greu noson wirioneddol theatrig gan ychwanegu at dduwch y sgwennu."[5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- ↑ "YN DEBYG IAWN I TI A FI - News and latest information on Theatre Dance and Performance in Wales - news, reviews, commentary, features and discussion". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-31.
- ↑ "BBC CYMRU'R BYD - Adloniant". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-31.
- ↑ Griffiths, Paul (2006-07-28). "Paul Griffiths: Theatr Genedlaethol Cymru - y ddwy flynedd gyntaf". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2024-08-31.
- ↑ "BBC - Cymru'r Byd - Llyfrau". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-31.