Yr hawl i fywyd
Enghraifft o'r canlynol | hawliau dynol |
---|---|
Cysylltir gyda | y gosb eithaf, erthyliad, ewthanasia, right-to-life movement |
Yr hawl i fywyd yw'r gred bod gan berson yr hawl i fyw ac, yn benodol, na ddylai endid arall - gan gynnwys y llywodraeth - ei ladd. Mae'r cysyniad o hawl i fywyd yn codi mewn dadleuon ar faterion y gosb eithaf, rhyfel, erthyliad, ewthanasia, creulondeb yr heddlu, lladdiad y gellir ei gyfiawnhau, a hawliau anifeiliaid. Gall unigolion anghytuno ar ba feysydd y mae'r egwyddor hon yn berthnasol, gan gynnwys y materion a restrir uchod. Cyhoeddodd Dafydd Iwan gân Yr Hawl i Fyw'.
Erthyliad
[golygu | golygu cod]Defnyddir y term "hawl i fywyd" yn y ddadl ar erthyliad gan y rhai sy'n dymuno dod â'r arfer o erthyliad i ben, neu o leiaf leihau amlder yr arfer, Yng nghyd-destun beichiogrwydd, daeth y term hawl i fywyd oedd yn fwy amlwg oherwydd ei ddefnydd gan y Pab Pius XII yn 1951:
Rhodd gan Dduw i bob bod dynol, hyd yn oed i bob plentyn yn y groth, yw'r hawl i fywyd - nid rhodd gan ei rieni, nid gan unrhyw gymdeithas nac awdurdod dynol... --- Pab Pius XII, Anerchiad i Fydwragedd ar Natur eu Proffesiwn, Hydref 29, 1951.[1]
Yn 1966 gofynnodd Cynhadledd Genedlaethol yr Esgobion Catholig (NCCB) i Fr. James T. McHugh i ddechrau arsylwi ar y tueddiadau ar ddiwygio hawliau a chyfreithiau'n ymwneud ag erthyliad yn yr Unol Daleithiau.[2] Sefydlwyd y Pwyllgor Hawl i Fyw Cenedlaethol (NRLC) ym 1967 fel "y Gynghrair Hawl i Fyw" i gydlynu ei ymgyrchoedd gwladol o dan adain Cynhadledd Genedlaethol yr Esgobion Catholig.[3][4] Cynigiodd arweinwyr allweddol Minnesota fodel sefydliadol a fyddai’n gwahanu’r NRLC oddi wrth oruchwyliaeth Cynhadledd Genedlaethol yr Esgobion Catholig. Erbyn dechrau 1973 cynigiwyd cynllun gwahanol, gan hwyluso symudiad NRLC tuag at ei annibyniaeth oddi wrth yr Eglwys Babyddol .
Moeseg a hawl i fywyd
[golygu | golygu cod]Mae rhai moesegwyr iwtilitaraidd yn dadlau bod yr "hawl i fywyd", yn dibynnu ar amodau heblaw aelodaeth o'r rhywogaeth ddynol. Mae'r athronydd Peter Singer yn gefnogwr nodedig o'r ddadl hon. I Singer, mae'r hawl i fywyd wedi'i seilio ar y gallu i gynllunio a rhagweld dyfodol rhywun. Mae hyn yn ymestyn y cysyniad i anifeiliaid nad ydynt yn ddynol, fel epaod eraill, ond gan nad oes gan fabanod heb eu geni, babanod na phobl ag anabledd difrifol yr hawl i fywyd, mae'n nodi y gellir cyfiawnhau erthyliad, babanladdiad di-boen ac ewthanasia (ond nid ydynt yn orfodol) o dan amgylchiadau arbennig, er enghraifft yn achos baban anabl y byddai ei fywyd yn un o ddioddefaint,[5] neu os nad oedd ei rieni am ei godi ac nad oedd unrhyw un eisiau ei fabwysiadu.
Y gosb eithaf
[golygu | golygu cod]Mae gwrthwynebwyr y gosb eithaf yn dadlau ei fod yn torri’r hawl i fywyd, tra bod cefnogwyr y gosb eithaf yn dadlau nad yw’r gosb eithaf yn groes i’r hawl i fywyd oherwydd dylai’r hawl i fywyd fod yn ddarostyngedig i'r hyn sy'n gyfiawn . Cred y gwrthwynebwyr mai cosb eithaf yw'r tramgwydd gwaethaf o hawliau dynol, oherwydd yr hawl i fywyd yw'r pwysicaf. Mae hefyd yn dadlau fod wynebu'r gosb eithaf yn achosi artaith seicolegol i'r condemniedig a galwa'r gosb eithaf yn "gosb greulon, annynol a diraddiol". Mae Amnest Rhyngwladol yn ei ystyried ei fod y "gwadiad mwyaf eithafol o Hawliau Dynol, na ellir ei wrthdroi".[6]
Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig wedi mabwysiadu, yn 2007, 2008, 2010, 2012, 2014, a 2016 [7] benderfyniadau'n galw am foratoriwm byd-eang ar ddienyddiadau, gyda'r bwriad o ddiddymu'r gosb eithaf, yn y pen draw.[8]
Lladd gan yr heddlu
[golygu | golygu cod]Mae'r Safonau Hawliau Dynol Rhyngwladol ar gyfer Gorfodi'r Gyfraith wedi creu system lle cydnabyddir fod yn rhaid i bob rhan o'r wladwriaeth (gan gynnwys yr heddlu ac adrannau cudd-wybodaeth_ fod yn rhwym wrth gyfraith hawliau dynol rhyngwladol ac y dylent wybod a gallu cymhwyso safonau rhyngwladol ar gyfer hawliau dynol.[9]
Ewthanasia
[golygu | golygu cod]Mae'r rhai sy'n credu y dylai person allu gwneud y penderfyniad i ddiweddu ei fywyd ei hun trwy ewthanasia yn defnyddio'r ddadl bod gan bobl yr hawl i ddewis,[10] tra bod y rhai sy'n gwrthwynebu cyfreithloni ewthanasia yn dadlau felly ar y sail bod gan bawb yr hawl i fywyd.[11]
Datganiadau cyfreithlon
[golygu | golygu cod]- Yn 1444, datganodd Statud Poljica yr hawl i fyw "- oherwydd nad oedd unrhyw beth yn bodoli am byth".[12]
- Ym 1776, datganodd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau fod “ pob dyn yn cael ei greu’n gyfartal, eu bod yn cael eu cynysgaeddu gan eu Creawdwr â rhai Hawliau na ellir eu newid ee Bywyd, Rhyddid a Hapusrwydd”.
- Ym 1948, cyhoeddwyd y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn erthygl tri:Mae gan bawb yr hawl i fywyd, rhyddid a diogelwch person.
- Ym 1950, mabwysiadwyd y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol gan Gyngor Ewrop, gan ddatgan y diogelir yr hawl ddynol i fywyd yn Erthygl 2 . Mae yna eithriadau ar gyfer dienyddiadau cyfreithlon a hunan-amddiffyn, arestio rhywun sydd dan amheuaeth o ffoi, ac atal terfysgoedd a gwrthryfel. Ers hynny mae Protocol 6 y Confensiwn wedi galw ar genhedloedd i wahardd y gosb eithaf ac eithrio adeg rhyfel neu argyfwng cenedlaethol, ac ar hyn o bryd mae hyn yn ymwneud â phob gwlad yn y Cyngor. Mae Protocol 13 yn darparu ar gyfer dileu'r gosb eithaf yn llwyr, ac fe'i gweithredwyd yn y mwyafrif o aelod-wledydd y Cyngor.
- Ym 1966, mabwysiadwyd y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig .
“ |
Mae gan bob bod dynol yr hawl gynhenid i fywyd. Bydd yr hawl hon yn cael ei gwarchod gan y gyfraith. Ni chaiff neb ei amddifadu o fywyd yn ol mympwy. - Erthygl 6.1 o'r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol |
” |
- Ym 1969, mabwysiadwyd Confensiwn America ar Hawliau Dynol yn San José, Costa Rica gan lawer o wledydd yn Hemisffer y Gorllewin. Mae mewn grym mewn 23 o wledydd.
“ |
Dylid parchu bywyd pob person. Bydd yr hawl hon yn cael ei gwarchod gan y gyfraith ac, yn gyffredinol, o eiliad y caiff person ei genhedlu. Ni chaiff neb ei amddifadu yn fympwyol o'i fywyd. - Erthygl 4.1 o Gonfensiwn America ar Hawliau Dynol |
” |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Address to Midwives on the Nature of Their Profession", 29 Hydref 1951. Pope Pius XII.
- ↑ "Gale - Product Login". galeapps.galegroup.com. Cyrchwyd 2019-07-18.
- ↑ http://www.christianlifeandliberty.net/RTL.bmp K.M. Cassidy. "Right to Life." In Dictionary of Christianity in America, Coordinating Editor, Daniel G. Reid. Downers Grove, Illinois: InterVarsity Press, 1990. pp. 1017,1018.
- ↑ "God's Own Party The Making of the Religious Right", pp. 113-116. ISBN 978-0-19-534084-6. Daniel K. Williams. Oxford University Press. 2010.
- ↑ Singer, Peter. Practical ethics Cambridge University Press (1993), 2nd revised ed., ISBN 0-521-43971-X
- ↑ "Abolish the death penalty". Amnesty International. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Awst 2010. Cyrchwyd 23 Awst 2010.
- ↑ "117 countries vote for a global moratorium on executions". World Coalition Against the Death Penalty. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02.
- ↑ "moratorium on the death penalty". United Nations. 15 Tachwedd 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Ionawr 2011. Cyrchwyd 23 Awst 2010.
- ↑ "International Human Rights Standards for Law Enforcement" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-08-28.
- ↑ 1999, Jennifer M. Scherer, Rita James Simon, Euthanasia and the Right to Die: A Comparative View, Page 27
- ↑ 1998, Roswitha Fischer, Lexical Change in Present-day English, page 126
- ↑ Marušić, Juraj (1992). Sumpetarski kartular i poljička seljačka republika (arg. 1st). Split, Croatia: Književni Krug Split. t. 129. ISBN 978-86-7397-076-9.