Neidio i'r cynnwys

Oscar Wilde

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 05:20, 30 Tachwedd 2011 gan WikitanvirBot (sgwrs | cyfraniadau)
Oscar Wilde
GalwedigaethBardd, nofelydd, dramodydd

Bardd, nofelydd a dramodydd Gwyddelig yn ysgrifennu yn yr iaith Saesneg oedd Oscar Fingal O'Flahertie Wills Wilde (16 Hydref 1854 - 30 Tachwedd 1900). Roedd yn enwog am ei ffraethineb a datblygodd i fod yn un o ddramodwyr mwyaf llwyddiannus diwedd y cyfnod Fictorianaidd yn Llundain ac yn un o ser mwyaf ei gyfnod. Mae nifer o'i ddramâu yn parhau i gael eu perfformio, yn enwedig The Importance of Being Earnest. O ganlyniad i gyfres o achosion llys, carcharwyd Wilde am ddwy flynedd o lafur caled wedi iddo gael ei ffeindio'n euog o "anweddusdra difrifol" gyda dynion eraill. Pan ryddhawyd Wilde o'r carchar, hwyliodd liw nos i Dieppe ar y fferi. Ni ddychwelodd i Brydain.

Cafodd ei eni yn 21 Westland Row, Nulyn, Iwerddon ac astudiodd yng Ngholeg Y Drindod yn y ddinas.

Bu farw Wilde ym Mharis, Ffrainc a chladdwyd ef ym mynwent Pere-Lachaise yno.

Llyfryddiaeth

Barddoniaeth

Drama

Eraill

Dyfyniadau

Cerflun ym Maes Merrion, Dulyn
  • A cynic is a man who knows the price of everything and the value of nothing
  • Art never expresses anything but itself
  • Anyone can be good in the country
  • A thing is not necessarily true because a man dies for it
  • He hasn't an enemy in the world and none of his friends like him
  • I have nothing to declare but my genius
  • Experience is the name everyone gives to their mistakes
  • We all live in the gutter but some of us are looking at the stars
  • Work is the curse of the drinking classes

Cerfluniau


Baner Republic of IrelandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.