Neidio i'r cynnwys

Cristnogaeth Ddwyreiniol

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:49, 11 Ebrill 2008 gan Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)

Mae'r Eglwysi Uniongred yn cynnwys nifer o eglwysi Cristionogol gwahanol, y rhan fwyaf ohonynt yn nwyrain Ewrop, gorllewin Asia a gogledd-ddwyrain Affrica.

Y cyfundeb mwyaf o Eglwysi Uniongred yw'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, yr eglwysi Cristionogol sydd mewn cymundeb a Phatriarchaethau Caergystennin, Alexandria, Antioch a Jeriwsalem. Mae'r eglwysi hyn mewn gwahanol wledydd i gyd mewn cymundeb a'i gilydd. Ystyrir Patriarch Caergystennin fel y cyntaf o ran safle ymysg clerigwyr yr Eglwys, ond nid yw'n bennaeth fel y mae'r Pab yn bennaeth yr Eglwys Gatholig. Mae'r eglwysi yma yn cynnwys Eglwys Uniongred Groeg ac Eglwys Uniongred Rwsia ymysg eraill.

Y cyfundeb mawr arall a elwir yn Uniongred yw'r Eglwysi'r tri chyngor, neu Eglwysi Uniongred Orientalaidd, eglwysi sydd mewn cymundeb a'i gilydd ond nid a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Mae'r eglwysi yma yn cydnabod y tri Cyngor Eglwysig cyntaf, Cyngor Cyntaf Nicaea, Cyngor Cyntaf Caergystennin a Cyngor Ephesus, ond yn gwrthod penderfyniadau Cyngor Chalcedon. Mae'r eglwysi yma yn cynnwys yr Eglwys Goptaidd, yr Eglwys Uniongred Syriac, Eglwys Uniongred Ethiopia, Eglwys Uniongred Eritrea, Eglwys Uniongred Syriaidd Malankara ac Eglwysi Apostolaidd Armenia.