Concorde
Enghraifft o'r canlynol | aircraft model |
---|---|
Math | narrow-body quadjet airliner, supersonic aircraft, land-based airliner monoplane |
Màs | 185,065 cilogram |
Gweithredwr | Air France, British Airways |
Gwneuthurwr | Sud-Aviation, British Aircraft Corporation |
Hyd | 61.66 metr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Awyren jet fasnachol uwchsonig oedd Aérospatiale-BAC Concorde. Cafodd ei chreu fel rhan o gytundeb llywodraethol Eingl-Ffrengig, gan y cwmnïau cynhyrchu Aérospatiale a Chorfforaeth British Airways. Hedfanodd am y tro cyntaf yn 1969, a dechreuodd wasanaethu'n fasnachol yn 1976. Parhaodd ei hediadau masnachol am 27 o flynyddoedd.
Arferai Concorde hedfan yn rheolaidd ar draws yr Iwerydd o faes awyr Heathrow, Llundain (British Airways) a Maes Awyr Charles de Gaulle, Paris, (Air France) i Maes Awyr Rhyngwladol John F. Kennedy a Maes Awyr Rhyngwladol Dulles, Washington. Elwodd y cwmni o'r ffaith fod yr awyren yn hedfan ar gyflymder na welwyd o'r blaen, gan gyrraedd y cyrchfan mewn llai na hanner yr amser ag y cymerai i gwmnïau awyrennau eraill.
Am mai 20 awyren yn unig a adeiladwyd, roedd datblygiad Concorde yn golled ariannol sylweddol, ac fe roddodd llywodraethau Prydain a Ffrainc gymorthdaliadau i British Airways ac Air Francs i'w prynu. O ganlyniad i unig ddamwain awyr Concorde ar 35 Gorffennaf 2000 ynghyd â ffactorau eraill, cyhoeddwyd hediad olaf yr awyren ar 26 Tachwedd 2003.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Tudalen Concorde British Airways
- Tudal Concorde Braniff Airways Archifwyd 2012-04-14 yn y Peiriant Wayback
- Tudaln Concrode yr Amgueddfa Ddylunio (DU)
- Supersonic: Tribute to Concorde Archifwyd 2010-03-25 yn y Peiriant Wayback – sioe sleidiau gan Life magazine
- Ffilm Pathé o daith gyntaf 002 o Filton i RAF Fairford ar 9 Ebrill 1967 Archifwyd 2011-11-28 yn y Peiriant Wayback