Anufudd-dod sifil
Gwleidyddiaeth |
---|
Safbwyntiau |
Geirfa |
Gwrthod i ufuddhau i orchmynion yr awdurdodau neu ddeddfau'r llywodraeth yw anufudd-dod sifil ac hynny â'r nod o orfodi newid mewn polisi neu ryw agwedd o'r drefn wleidyddol. Gallai'r gyfraith a dorrir ei hun ei hystyried yn annilys neu'n anfoesol, neu allai'r troseddu fod yn ffordd o dynnu sylw at anghyfiawnder neu achos arall. Fel rheol mae'n cyfeirio at ddulliau di-drais a goddefol o droseddu, ac wrth ymwrthod â thrais dyma gyfiawnhad yr anufuddhäwr dros dorri'r gyfraith ar dir cydwybod.
Modd o wrthdystio neu wrthsefyll ydyw sydd yn tynnu sylw i achos yr anufuddhäwr ac yn peri rhywfaint o aflonyddwch, trafferth, neu wastraff i'r awdurdodau. Gweithred symbolaidd ydyw yn hytrach na gwrthwynebiad i'r drefn wleidyddol a'r gyfraith gyfan, a gobaith yr anufuddhäwr yn aml ydy gosod esiampl foesol drwy dderbyn ei gosb am dorri'r gyfraith. Trwy herio'r awdurdodau yn gyhoeddus a thynnu sylw ei gyd-ddinasyddion at ei achos, ei nod yw gwthio'r llywodraeth i weithredu. Mae rhai ymgyrchwyr yn arddel anufudd-dod sifil yn athroniaeth gyffredinol er newid cymdeithas, ac eraill yn ei ystyried yn dacteg i'w defnyddio pan nad oes ffyrdd cyfreithlon o weithredu. Yn achos hwnnw, moesoldeb sydd yn sail i rym y protestwyr, yn niffyg grym gwleidyddol, cyfreithiol, neu economaidd ganddynt.
I gael effaith ar ei darged, mae'n rhaid i anufudd-dod sifil nid yn unig fod yn niwsans i'r drefn ond hefyd i apelio at foesoldeb y gymdeithas. Bu anufudd-dod sifil yn dacteg bwysig gan sawl mudiad cymdeithasol a gwleidyddol, gan gynnwys cenedlaetholwyr a gwrthdrefedigaethwyr ar draws Affrica ac Asia, ymgyrchwyr hawliau sifil, undebau llafur, y mudiad heddwch, ac ymgyrchwyr iaith, ac amgylcheddwyr. Ymhlith y dulliau cyffredin o anufudd-dod sifil mae ymwrthod â thalu treth, atal ffyrdd, a gorymdeithio neu feddiannu adeilad heb ganiatâd.
Diffiniad
[golygu | golygu cod]Yr hyn sydd yn gwahaniaethu anufudd-dod sifil oddi ar dor-cyfraith arferol ydy'r cyfiawnhad moesol, didreisedd, a chyhoeddusrwydd. Oherwydd cymhelliad anhunanol honedig yr anufuddhäwr, câi anufudd-dod sifil ei ystyried yn wahanol ei fwriad i weithgareddau anghyfreithlon eraill, ac yn ôl ei gefnogwyr yn haws ei amddiffyn. Fel arfer dadleuant bod protestiadau o'r fath er budd y gymdeithas oll, gan eu bod yn tynnu sylw at anghyfiawnderau neu broblemau cymdeithasol sydd yn effeithio ar les pawb.[1]
Athroniaeth a syniadaeth wleidyddol
[golygu | golygu cod]Democratiaeth ryddfrydol
[golygu | golygu cod]Mae nifer o ddemocratiaid a rhyddfrydwyr yn dadlau bod y rheidrwydd moesol yn cyfiawnhau tor-cyfraith mewn achosion arbennig.
Anarchiaeth
[golygu | golygu cod]Er bod anarchwyr yn gwrthwynebu awdurdod gwleidyddol a chyfreithiol ac yn debyg o gefnogi gweithredoedd sydd yn gwrthsefyll y llywodraeth, nid ydynt yn gyffredinol yn arddel anufudd-dod sifil yn rhan o'u syniadaeth. Mae nifer o anarchwyr a meddylwyr radicalaidd eraill yn gwrthod athroniaeth anufudd-dod sifil ac yn ei chondemnio am iddi dderbyn y strwythur wleidyddol sydd ohoni. Dadleuasant nad oes angen i unigolion gyfiawnhau eu penderfyniad i wrthsefyll yr awdurdodau yn nhermau sydd yn cydnabod awdurdod y llywodraeth.
Ceidwadaeth
[golygu | golygu cod]Mae rhai meddylwyr, fel arfer ceidwadwyr, yn gwrthod anufudd-dod sifil yn llwyr. Maent yn dadlau nad oes hawl gan yr un ddinesydd i wrthod rheol y gyfraith, hyd yn oed os yw'r gyfraith ei hun yn anghyfiawn, a bod hawl o'r fath yn tanseilio'r holl drefn gyfreithiol. Dywed bod rhwymedigaeth wleidyddol yn mynnu ufuddhad llwyr gan y dinesydd i awdurdod y wladwriaeth. Trwy'r broses wleidyddol ffurfiol yn unig y dylai'r dinesydd fynegi ei wrthwynebiad i'r drefn a cheisio'i newid, a thor-cyfraith ac anhrefn trwy ddiffiniad ydy anufudd-dod sifil.
Hanes
[golygu | golygu cod]Bathwyd y term Saesneg civil disobedience gan yr Americanwr Henry David Thoreau yn ei ysgrif sydd yn dwyn yr enw hwnnw, a gyhoeddwyd yn 1849. Mae'n dadlau bod gan unigolyn ddyletswydd i wrthwynebu gweithredoedd anghyfiawn llywodraeth sifil.
Gandhi
[golygu | golygu cod]Datblygodd y syniad fodern o anufudd-dod sifil yn bennaf dan arweiniad Mohandas Karamchand Gandhi, cenedlaetholwr o India a fu'n arwain yr ymdrech i ennill annibyniaeth oddi ar yr Ymerodraeth Brydeinig. Tynnodd Gandhi ar athroniaeth y Gorllewin a'r Dwyrain, gan gynnwys yr ysgrif Civil Disobedience gan Thoreau, wrth lunio satyagraha, ei athrawiaeth o wrthsafiad di-drais. Arddelai satyagraha yn gyntaf yn Ne Affrica wrth ymgyrchu dros hawliau i'r Indiaid. Yn ddiweddarach dychwelodd i'w famwlad ac arweiniodd sawl ymgyrch ar sail satyagraha, gan gynnwys y Gorymdaith Halen yn 1930.
Y Mudiad Hawliau Sifil
[golygu | golygu cod]Mabwysiadwyd dulliau anufudd-dod sifil gan Americanwyr Affricanaidd yn y Mudiad Hawliau Sifil yn y 1950au a'r 1960au i geisio dod â therfyn i arwahanu ar sail hil yn nhaleithiau deheuol Unol Daleithiau America. Cynhaliwyd sit-ins i feddiannu busnesau hiliol yn ogystal â gorymdeithiau a boicotiau a ostegwyd gan yr awdurdodau. Prif arweinydd a lladmerydd yr anufudd-dod sifil oedd Martin Luther King, a chyferbynnir ei ymgyrchoedd ef â defnydd grym gan eraill megis y Pantherod Duon a Malcolm X.
Cymdeithas yr Iaith
[golygu | golygu cod]Defnyddiwyd anufudd-dod sifil gan Gymdeithas yr Iaith i ymgyrchu dros yr iaith Gymraeg ers y brotest dorfol gyntaf yn 1963, a hynny ar Bont Trefechan yn Aberystwyth. Bu ymgyrchwyr hefyd yn paentio dros arwyddion ffordd unieithog.
Mudiadau amgylcheddol
[golygu | golygu cod]Mae sawl mudiad amgylcheddol, gan gynnwys Greenpeace a Gwrthryfel Difodiant, yn defnyddio anufudd-dod sifil i gyhoeddi eu neges.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ron J. Bigalke, Jr, "Civil Disobedience" yn The Encyclopedia of Political Science cyfrol 1, golygwyd gan George Thomas Kurian et al. (Washington, D.C.: CQ Press, 2011), t. 236.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Terence Ball, Civil Disobedience and Civil Deviance (Beverly Hills, Califfornia: Sage Publications, 1973).
- Christian Bay a Charles Walker, Civil Disobedience: Theory and Practice (St Paul, Minnesota: Black Rose Books, 1975).
- Hugo Bedau, Civil Disobedience: Theory and Practice (Efrog Newydd: Pegasus, 1969).
- James F. Childress, Civil Disobedience and Political Obligation (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 1971).
- Ernest van den Haag, Political Violence and Civil Disobedience (Efrog Newydd: Harper & Row, 1972).
- Elliot M. Zashin, Civil Disobedience and Democracy (Efrog Newydd: Free Press, 1972).