Jeremy Turner
Jeremy Turner | |
---|---|
Ganwyd | Jeremy George Turner 1958 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | Prifysgol Aberystwyth |
Galwedigaeth | Actor, Cyfarwyddwr theatr a Llenor |
Cysylltir gyda | Arad Goch |
Priod | Mari Rhian Owen |
Actor, llenor a chyfarwyddwr theatr o Aberystwyth yw'r Athro Jeremy Turner (ganwyd 1958).[1] Mae'n un o sefydlwyr y cwmnïau theatr Cwmni Cyfri Tri ac Arad Goch. Yn 2024, ymddeolodd o'i swydd fel cyfarwyddwr artistig Arad Goch ar ôl cyfnod o 35 mlynedd wrth y llyw.[2] Mae o hefyd yn ddarlithydd Drama rhan amser ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Arad Goch bu'n gyfrifol am sefydly Gŵyl Agor Drysau, gŵyl ddrama ryngwladol i blant a phobl ifanc.[3]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth ym 1979, gan gychwyn gweithio (a chael ei ddylanwadu) gan y Cardiff Laboratory Theatre yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979 efo'r sioe awyr agored Blodeuwedd. [4] Aeth ati wedyn i greu Cwmni Cyfri Tri gyda rhai o'i gyd-fyfyrwyr yn Aberystwyth sef Christine Watkins a Sera Moore-Williams. "Nododd Jeremy Turner ei fod ef a'i gymdeithion wedi dysgu llawer 'o safbwynt athroniaeth theatr, ac o safbwynt potensial theatr hefyd', wrth gyflwyno cynhyrchiad y [Cardiff] Lab, 'nad oedd wedi cael ei wireddu yn y math o theatr yr oeddem ni wedi ei weld gan Gwmni Theatr Cymru, er enghraifft‘“[4]
Unwyd Cwmni Cyfri Tri a Theatr Crwban i greu Cwmni Theatr Arad Goch ym 1989. “O dan arweiniad Jeremy yr esblygodd Arad Goch i fod o gwmni sirol i gwmni cenedlaethol ac i un rhyngwladol,” meddai’r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, cadeirydd Bwrdd Rheoli Arad Goch.[5] “Cadwodd yn driw at ei egwyddorion o gyflwyno byd theatr mewn addysg. [...] Caniataodd i blant a phobol ifanc, waeth beth fo’u cefndir, i gael mynediad at y theatr, ac roedd yn egwyddor craidd mewn democratiaeth i Arad Goch ar hyd y blynyddoedd", ychwanegodd.[5]
Teithiodd Jeremy Turner â gwaith Arad Goch i lwyfannau rhyngwladol gan berfformio yn Rwsia, De Corea, Tiwnisia, Ffrainc, Catalwnia a Gwlad Pŵyl.
Cyhoeddodd gyfrol i blant o'r enw Guto Nythbrân i gyd fynd â sioe deithiol i blant yn 2012.[6]
Yn 2024, derbyniodd ei ddoethuriaeth PhD am ei thesis yn seiliedig ar "Nodweddion hanfodol prosesau creadigol mewn theatr i gynulleidfaoedd ifanc yng nghyd-destun diwylliant a iaith leiafrifol."
Mae'n briod â'r actores, llenor a chyfarwyddydd Mari Rhian Owen.
Cafodd ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017.
Gŵyl Agor Drysau
[golygu | golygu cod]Bu Cwmni Theatr Arad Goch yn gyfrifol am gynnal Gŵyl Agor Drysau o dan Cyfarwyddir Jeremy Turner. Sefydlwyd yr Ŵyl yn 1996 gan ddenu cwmnïau theatr ar gyfer plant a phobl ifanc o wledydd tramor yn ymweld ag Aberystwyth a pherfformio mewn lleoliadau yn y dref a'r fro. Yn y 10fed Gŵyl Agor Drysau rhwng 12-16 Mawrth 2024, cynhaliwyd cyfanswm o 53 perfformiad theatrig, gan 19 cwmni o Gymru, Yr Eidal, Gwlad Belg, Iwerddon, Awstralia, a Lloegr. Daeth 5,705 o gyfranogwyr neu aelodau'r gynulleidfa i’r perfformiadau yn ystod yr ŵyl.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cardiff Laboratory Theatre
[golygu | golygu cod]- Blodeuwedd (1979) fel actor
Cwmni Cyfri Tri
[golygu | golygu cod]- Gwarchod y Môr (1980)
- Y Sipsi Het Ddu (1980) - sioe ysgolion - sioe un-dyn Jeremy Turner
- Caerdroia (1981) cast: Jeremy Turner, Bryn Fôn
- Manawydan (1982) ar y cyd â Brith Gof
- Lily (1982)
- Y Mawr, Y Bach a'r Llai Fyth! (1983) anterliwt gan William O Roberts
- Polka yn y Parlwr (1984)
- Pob Lliw Dan Haul (1984) - sioe ysgolion
- Gyrdd-der : O'r Cysgod (1985) Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Rhyl 1985 - sioe pobol ifanc
- Gyrdd-der '86 (1986) sioe pobol ifanc
- Dyrchafiad Dyn Bach (1987) anterliwt gan John Glyn Owen
- Joli Boi (1987)
- Cellwair (1988) cyfieithiad o One for the Road gan Harold Pinter - taith Medi 1988[7]
Arad Goch
[golygu | golygu cod]- Rwtsh Ratsh Rala Rwdins (1989) - cyfarwyddwr
- Cai (1990) addasiad o Caligula gan Albert Camus - cyfarwyddwr ac addasydd
- Saer Doliau (1991) - cyfarwyddwr
- Tuag At Y Nefoedd Yn Dy Boced (1991) - cyfarwyddwr
- Yn Ein Dwylo (1992) - drama fudduol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 1992 - cyfarwyddwr
- Ffrwgwd y tad a mab (1993) - cyfarwyddwr
- Winter Pictures (1994) - cyfarwyddwr
- Anrheg (2004)
- Guto Nythbrân (2012) awdur
- Cysgu'n Brysur (2016)
- Jemima (2023) - awdur
- Palmant/Pridd (2024)
- Twm Sion Cati - awdur
- Beca - awdur
- Lleuad yn Olau
- Hen Llinell Bell
- Ble Mae'r Dail yn Hedfan?
Teledu
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Jeremy George TURNER personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-22.
- ↑ "Sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig Arad Goch, Jeremy Turner, yn ymddeol". newyddion.s4c.cymru. 2024-09-22. Cyrchwyd 2024-09-22.
- ↑ 3.0 3.1 "Gŵyl Agor Drysau Arad Goch yn dathlu 10 mlynedd gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac ARFOR". Gwefan Cyngor Sir Ceredigion. 2024. Cyrchwyd 24 Medi 2024.
- ↑ 4.0 4.1 Owen, Roger (2003). Ar Wasgar. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0 7083 1793 6.
- ↑ 5.0 5.1 "Jeremy Turner wedi "adeiladu'r llwyfan, agor y drws a rhoi'r gefnogaeth i ddarganfod creadigrwydd"". Golwg360. 2024-01-26. Cyrchwyd 2024-09-22.
- ↑ "Gwefan Y Lolfa".
- ↑ "Cellwair". Golwg cyfrol 1 rhif 2. 15 Medi 1988.