Paralelogram
Mewn geometreg Ewclidaidd, ystyrir y paralelogram yn bedrochr syml, gyda dau bâr o ochrau cyfochrog (neu 'baralel')[1]. Mae'r llinellau cyferbyn o'r un hyd ac mae'r onglau cyferbyn hefyd yn gyfartal. Bathiad o'r Groeg yw paralelogram: παραλληλ-όγραμμον, sef siâp wedi'i lunio "allan o linellau cyfochrog").
Gellir cymharu'r pararelogram gyda'r trapesoid (weithiau: trapesiwm), sy'n bedrochr gyda dim ond un pâr o linellau paralel.
Y ffurf tebyg i'r paralelogram (dau ddimensiwn), mewn tri dimensiwn yw'r paralelepiped.
Mathau
[golygu | golygu cod]- Rhomboid - pedrochor gyda'i ochrau cyferbyniol yn paralel, a hyd yr ochrau cyfagos ddim yn hafal. nid oes ganddo ongl sgwâr.[2]
- Petryal - paralelogram gyda'i bedair ongl yn hafal.
- Rhombws – paralelogram gyda'i bedair llinell yn hafal.
- Sgwâr – paralelogram gyda'i bedair llinell o'r un hyd a'r bedair ongl yn hefyd yn hafal (4 ongl sgwâr)
Arwynebedd
[golygu | golygu cod]Gellir rhannu paralelogram gyda sylfaen b ac uchder h yn drapesiwm ac yn driongl ongl sgwâr, a'u hail-drefnu i fod yn betryal. Golyga hyn fod arwynebedd y pararelogram yr un fath â phetryal gyda'r un sylfaen a'r un uchder:
Mae arwynebedd paralelogram gydag ochrau B a C (B ≠ C) ac ongl ar groestoriad y croesliniau yn cael ei roi fel:[3]
Yr hafaliad o ddefnyddio fformwla Heron yw
<clirio>
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 'paralel' yw'r term Cymraeg yn ôl Y Termiadur Addysg - Ffiseg a Mathemateg adalwyd 25 Medi 2018.
- ↑ "CIMT - Page no longer available at Plymouth University servers" (PDF). www.cimt.plymouth.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-05-14. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Mitchell, Douglas W., "The area of a quadrilateral", Mathematical Gazette, Gorffennaf 2009.