Tristan da Cunha
Gwedd
Math | grŵp o ynysoedd, endid tiriogaethol gweinyddol, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tristão da Cunha |
Prifddinas | Edinburgh of the Seven Seas |
Poblogaeth | 246 |
Anthem | God Save the King |
Cylchfa amser | UTC±00:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Arwynebedd | 207 km² |
Uwch y môr | 2,062 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 37.15°S 12.3°W |
SH-TA | |
Arian | punt sterling |
Grŵp o ynysoedd folcanig yn ne Cefnfor Iwerydd yw Tristan da Cunha. Mae'r ynysoedd yn ffurfio rhan o Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha, tiriogaeth dramor sy'n perthyn i'r Deyrnas Unedig. Lleolir Tristan da Cunha tua 2430 km i'r de o Saint Helena, 2816 km i'r gorllewin o Dde Affrica a 3360 km i'r dwyrain o Dde America.[1] Ynys Tristan da Cunha ei hun yw'r ynys fwyaf a'r unig ynys gyfannedd. Mae'r ynysoedd eraill yn cynnwys Ynys Gough, Ynys Inaccessible ac Ynys Nightingale. Darganfuwyd Tristan da Cunha ym 1506 gan Tristão da Cunha, fforiwr o Bortiwgal.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Tristandacunha.org. Adalwyd ar 5 Mehefin 2012.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Tristan da Cunha