Chwaraeon yng Nghymru
O gofio cwrwgarwch cynhenid y Cymry, does fawr o syndod bod y Cymry'n bencampwyr yn y chwaraeon hynny – snwcer a dartiau – sydd â'u cartref yn y dafarn.
Diwylliant Cymru |
---|
Traddodiad |
Llenyddiaeth |
Cerddoriaeth |
Bwyd |
Dathliadau a gwyliau |
Chwaraeon |
Crefydd |
Hanes |
WiciBrosiect Cymru |
Dau o'r chwaraeon mwyaf poblogaidd yng Nghymru yw pêl-droed a rygbi. Chwaraeir hefyd dartiau, snwcer, criced, syrffio, dringo, golff, paffio, athletau, ralïo, hoci iâ, a phêl-fas.
Yr hen chwaraeon
[golygu | golygu cod]Tri o hen chwaraeon gwerin Cymru oedd cnapan, bando, a'r hen bêl-droed. Chwaraeid y rhain gan niferoedd mawr o ddynion, yn aml holl plwyf yn erbyn plwyf neu ardal arall. Ar ddydd Sul neu ar ddyddiau gŵyl yr eglwys, hynny yw y Nadolig, y Pasg, Dydd Mawrth Ynyd a gwyliau'r seintiau, roedd y gemau yma'n cael eu chwarae. Achos i'r boblogaeth wledig dod at ei gilydd oedd rhain: roedden nhw'n treulio'r noson cyn yr ŵyl yn yr eglwys yn gweddïo, ac yn mwynhau eu hunain yn y prynhawn ar y dydd. Roedd y gwragedd a'r plant lleol yn tyrru i weld y gemau, rhai ohonynt gyda bwyd a diod i gadw'r chwaraewyr i fynd. Roedd rhai chwaraeon eraill yn digwydd yn y fynwent ac o gwmpas yr eglwys ar yr un pryd: tenis, dawnsio o gwmpas y Fedwen Fai, a chwarae pêl-law yn erbyn muriau'r eglwys. Bu eraill yn chwarae dîs a chardiau ym mhorth yr eglwys, ac yn betio ar y gemau ac yn meddwi. Cafodd y traddodiadau hyn eu taro'n gryf gan agweddau'r Diwygiad Methodistaidd a deddfau yn erbyn chwarae ar y Sul. Fe aeth llawer o hen chwaraeon y Cymry ar goll, ac yn sgil y Chwyldro Diwydiannol daeth y Saeson â'u mabolgampau nhw i drefi a phentrefi'r pyllau glo.[1]
Cnapan
[golygu | golygu cod]- Prif: Cnapan
Ffurf ar bêl droed gwerinol yr Oesoedd Canol ond ychydig yn debycach i rygbi oedd cnapan. Roedd y fath gêm yn boblogaidd ledled Cymru ond chwaraeid o dan yr enw hwn yng ngogledd Sir Benfro a de Ceredigion.[2] Y cnapan oedd yr enw ar y bêl, hynny yw pêl bren fechan wedi ei berwi mewn saim er mwyn ei gwneud hi'n llithrig ac yn anodd ei dal.[3] Nod y gêm oedd i daflu'r cnapan yn ôl ac ymlaen gan geisio'i gadw'n agos at gôl eich hunan, sef man penodol ar eich tiriogaeth eich hun, gan amlaf porth neu gyntedd yr eglwys. Gollyngid y bêl hanner ffordd rhwng y ddwy gôl a'i llain chwarae oedd yr holl dir agored rhyngddynt.[2] Yn ogystal â'r nifer fawr o ddynion ar draed, roedd hefyd chwaraewyr ar gefn ceffylau ac yn cario pastwn, a chanddynt yr hawl i bastynu dyn o'r tîm arall gyda'r cnapan yn ei feddiant nes ei fod e'n taflu'r cnapan. Roedd y gêm yn gorffen pan oedd y cnapan yn mynd yn rhy bell i'r tîm arall ei gael yn ôl cyn diwedd y dydd.[3] Erbyn y 19eg ganrif fe'i gwaharddwyd yn aml gan yr awdurdodau oherwydd y betio a'r trais a oedd yn gysylltiedig â'r gêm.[2]
Bando
[golygu | golygu cod]- Prif: Bando
Gêm yn debyg i hoci neu hyrli oedd bando. Ceisiai tîm â chynifer â 30 o chwaraewyr fwrw pêl rhwng pyst eu gwrthwynebwyr.[4] Defnyddid ffyn crwca i daro'r pêl fach gron yn ôl ac ymlaen. Chwaraeid bando ar y traethau gwastad ar lannau'r môr.[5]
Pêl-droed traddodiadol
[golygu | golygu cod]Chwaraeid yr hen ffurf o bêl-droed mewn strydoedd y dref neu'r pentref. Y brif wahaniaeth o ran rheolau rhwng cnapan a'r ffurf hon o bêl-droed oedd y gellid ddefnyddio'r dwylo i gyffwrdd y cnapan: dim ond cicio'r bêl â'r traed a ganiateid mewn gornest pêl-droed. Swigen neu bledren eidion mewn câs o ledr oedd y bêl. Roedd y bêl yn ysgafn ond yn hawdd ei byrstio ac felly roedd eisiau wyth neu naw o beli mewn gornest go fawr. Porth yr eglwys oedd y gôl yn aml.[6] Parhaodd yr ornest draddodiadol ar Ddydd Mawrth Ynyd hyd y 1890au yn Arberth, Sir Benfro.[7]
Chwarae pêl (pêl-law Cymreig)
[golygu | golygu cod]- Prif: Pêl-law
Wrth chwarae pêl, neu bêl-law, bu dau neu bedwar chwaraewr yn eu tro yn taro pêl gyda chledr y llaw yn erbyn wal o fewn cwrt tair ochr (megis cwrt sboncen). Mae'n debyg i'r gêm Seisnig pummau a phêl-law Gwyddelig.[8] Roedd yn boblogaidd o'r Oesoedd Canol ymlaen a datblygodd yn gêm gystadleuol ym maes glo'r de yn y 19eg ganrif. Adeiladwyd cyrtiau ger y tafarnau a roddai nawdd i'r gornestau; "plaen" oedd yr enw lleol ar y cwrt. Chwaraewyd gornestau rhyngwladol ar y plaen pêl yn Nelson, Caerffili, ar ddiwedd yr 20g.[9]
Pêl-droed
[golygu | golygu cod]- Prif: Pêl-droed yng Nghymru
Rygbi
[golygu | golygu cod]Rygbi'r undeb
[golygu | golygu cod]Rygbi'r gynghrair
[golygu | golygu cod]Codi pwysau
[golygu | golygu cod]- Prif: Codi pwysau yng Nghymru
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ivor Owen. Golwg ar Gymru ei Hanes a'i Phobl (Y Bontfaen, D. Brown a'i Feibion, 1976), tt.125–128.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Gwyddoniadur Cymru, t. 176 [CNAPAN].
- ↑ 3.0 3.1 Golwg ar Gymru, t. 125.
- ↑ D. Geraint Lewis. Lewisiana (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 74.
- ↑ Golwg ar Gymru, t. 126.
- ↑ Golwg ar Gymru, tt. 125–126.
- ↑ Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs (Caerdydd: Amgueddfa Werin Cymru, 1978), t.75.
- ↑ Lewisiana, t. 75.
- ↑ Gwyddoniadur Cymru, t. 247 [CHWARAE PÊL].