Alpau
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid |
Gwlad | yr Almaen, Awstria, Y Swistir, Ffrainc, yr Eidal, Slofenia, Monaco, Liechtenstein, Hwngari |
Arwynebedd | 190,000 km² |
Uwch y môr | 4,810.9 metr |
Yn ffinio gyda | Alpine foothills |
Cyfesurynnau | 46.5781°N 8.615°E |
Hyd | 1,200 cilometr |
Cyfnod daearegol | Oligosen, Tertiary |
Deunydd | craig igneaidd, flysch, molasse, craig fetamorffig, craig waddodol |
Mae'r Alpau (yn hanesyddol Mynydd Mynnau) yn gadwyn o fynyddoedd yng nghanol Ewrop. Y mynydd uchaf yw Mont Blanc, sy'n 4,810 medr o uchder. Mae'r mynyddoedd uchaf yn Ffrainc, Y Swistir, Awstria a'r Eidal, ond mae rhannau is o'r Alpau hefyd yn Monaco, Slofenia, Yr Almaen a Liechtenstein. Mae'r gadwyn hon o fynyddoedd yn ymestyn 1,200 km (750 milltir) o'r gorllewin i'r dwyrain ar hyd 8 gwlad.
Mae'r Alpau Gorllewinol yn dechrau gerllaw Môr y Canoldir ac yn ymestyn hyd y Valais. Mae'r Alpau Canol yn ymestyn o'r Valais hyd Grisons, a'r Alpau Dwyrieiniol ym ymestyn ymlaen o Grisons i'r dwyrain a'r de.
Mae'r bwa Alpaidd yn gyffredinol yn ymestyn o Nice ar orllewin Môr y Canoldir i Trieste ar yr Adriatig a Fienna. Ffurfiwyd y mynyddoedd dros ddegau o filiynau o flynyddoedd yn ôl wrth i'r platiau tectonig Affricanaidd ac Ewrasiaidd wrthdaro. Arweiniodd hyn at greigiau gwaddodol morol yn codi'n gopaon uchel fel Mont Blanc a'r Matterhorn.
Mae Mont Blanc yn rhychwantu'r ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal, ac ar 4,809 metr (15,778 tr) hwn yw'r mynydd uchaf yn yr Alpau. Ceir 128 copa uwch na 4,000 metr yn yr ardal Alpaidd. Mae uchder a maint yr gadwen yn effeithio ar yr hinsawdd yn Ewrop; yn y mynyddoedd, mae lefelau dyodiad yn amrywio'n fawr ac mae amodau hinsoddol yn cynnwys parthau gwahanol iawn. Gwelir yr ibex yn y copaon uwch i ddrychiadau o 3,400 metr ac mae planhigion fel Edelweiss yn tyfu mewn ardaloedd creigiog.
Mae tystiolaeth o bobl yn byw yn yr Alpau yn mynd yn ôl i Hen Oes y Cerrig (Paleolithig). Ym Medi 1991 darganfuwyd corff dyn mewn rhew, a elwir bellach yn Ötzi a drigai yn yr ardal rhwng 3350 a 3105 CC. Erbyn y 6g CC, roedd y diwylliant Celtaidd La Tène wedi'i hen sefydlu drwy'r rhan hon o Ewrop. Croesodd Hannibal yr Alpau a gyr o eliffantod, ac bu'r Rhufeiniaid hefyd yn y rhanbarth am gyfnod byr. Ym 1800, croesodd Napoleon un o'r bylchau, gyda byddin o 40,000. Yn y 18fed a'r 19g gwelwyd mewnlifiad o naturiaethwyr, awduron ac artistiaid, yn benodol, y Rhamantwyr, ac yna oes aur Alpiniaidd wrth i fynyddwyr ddechrau esgyn i'r copaon.
Mae gan y rhanbarth Alpaidd hunaniaeth ddiwylliannol gref. Mae'r diwylliant traddodiadol o ffermio, gwneud caws a chrefftau pren yn dal i fodoli mewn pentrefi Alpaidd, er i'r diwydiant twristiaeth ddechrau tyfu'n gynnar yn yr 20g ac ehangu'n fawr ar ôl yr Ail Ryfel Byd i ddod yn brif ddiwydiant erbyn diwedd y ganrif. Mae'r Alpau yn eithriadol o boblogaidd yn enwedig gan ddringwyr a cherddwyr. Efallai mai'r sialens enwocaf yn yr Alpau yw dringo wyneb gogleddol yr Eiger yn y Swistir.
Mae Gemau Olympaidd y Gaeaf wedi cael eu cynnal yn Alpau'r Swistir, Ffrainc, yr Eidal, Awstria a'r Almaen. Yn y 2020au roedd gan rhanbarth yn gartref i 14 miliwn o bobl ac mae ganddo 120 miliwn o ymwelwyr blynyddol.[1]
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Nid oes sicrwydd o ble daw y gair "Alpau". Gall fod o iaith Geltaidd, neu o'r gair Lladin albos (gwyn). Mae rhai'n meddwl bod yr enw "alpau" a'r "Alban" yn dod o'r un gwreiddiau, unai o gwreiddyn indo-ewropeaidd, neu iaith henach, hyd yn oed. Daw'r gair Alpau o'r Lladin Alpes. Yn ei dro, daw'r gair Lladin Alpes o'r ansoddair albws ac albos[2] ("gwyn") o bosibl, neu efallai o enw'r dduwies Roegaidd Alphito, y mae ei henw'n gysylltiedig ag alffita, y "blawd gwyn"; alffos, gwahanglwyf gwyn diflas; ac yn olaf y gair Proto-Indo-Ewropeaidd * albʰós. Yn yr un modd, mae'r duw afon Alpheus hefyd yn deillio o alffos (Groeg) ac sy'n golygu gwyn.
Yn ei sylwebaeth ar yr Aeneid gan Vergil, dywed y gramadegydd o ddiwedd y 19g Maurus Servius Honoratus mai'r term Celtiaid am yr holl fynyddoedd uchel oedd Alpes.[3]
Ystyr 'Mynnau' yw 'geifr bach', lluosog y gair 'myn gafr'.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae'r Alpau yn nodwedd ddaearyddol siâp cilgant neu fwa, yng nghanol Ewrop ac sy'n rhychwantu 800 km mewn llinell grom o'r dwyrain i'r gorllewin ac sy'n 200 km o led yn ei anterth. Uchder cymedrig copaon y mynyddoedd yw 2.5 km (1.6 mi).[4] Mae'r amrediad yn ymestyn o'r Môr Canoldir i'r gogledd uwchben basn Afon Po, gan ymestyn trwy Ffrainc o Grenoble, ac i'r dwyrain trwy ganol a de'r Swistir. Mae'r amrediad yn parhau tuag at Fienna, Awstria, ac i'r dwyrain i'r Môr Adria a Slofenia.[5][6][7]
I'r de mae'n dipio i ogledd yr Eidal ac i'r gogledd mae'n ymestyn i ffin ddeheuol Bafaria yn yr Almaen.[7] Mewn ardaloedd fel Chiasso, y Swistir, ac Allgäu, Bafaria, mae'r ffiniau rhwng y mynyddoedd a'r gwastadeddau'n glir; mewn lleoedd eraill fel Genefa, mae'r ffiniau'n llai eglur.
Y gwledydd sydd â'r diriogaeth alpaidd fwyaf yw Awstria (28.7% o gyfanswm yr arwynebedd), yr Eidal (27.2%), Ffrainc (21.4%) a'r Swistir (13.2%).[8]
Rhennir y rhan uchaf o'r amrediad gan gafn rhewlifol dyffryn Rhône, o Mont Blanc i'r Matterhorn a Monte Rosa ar yr ochr ddeheuol, ac Alpau Bernese ar y gogledd. Mae'r copaon yn rhan ddwyreiniol yr ystod, yn Awstria a Slofenia, yn llai na'r rhai yn y rhannau canolog a gorllewinol.[7]
Gorwedd pen gogledd-ddwyreiniol y bwa Alpaidd ar lan Afon Donaw (y Danube) ger Fienna, sy'n llifo i'r Môr Du, a'i enw yw'r Leopoldsberg. Mewn cyferbyniad, mae rhan dde-ddwyreiniol yr Alpau yn gorffen ar y Môr Adria yn yr ardal o amgylch Trieste tuag at Duino a Barcola.[9]
Bylchau
[golygu | golygu cod]Mae'r Alpau wedi cael eu croesi ar gyfer rhyfel a masnach, a chan bererinion, myfyrwyr a thwristiaid dros y milenia. 'Bwlch' yw'r enw am y man isaf rhwng dau fynydd, y lle hawddaf i'w croesi fel rheol. Er enghraifft, yng Nghymru, ceir Bwlch Penbarras rhwng Moel Famau a Moel Fenlli.[10]
Yn y cyfnod canoloesol sefydlwyd hosbisau gan urddau crefyddol ar y bylchau hyn.[11] Y bylchau pwysicaf yw'r Col de l'Iseran (yr uchaf), y Col Agnel, Bwlch Brenner, y Mont-Cenis, Bwlch Mawr St. Bernard, y Col de Tende, Bwlch Gotthard, y Bwlch Semmering, Bwlch Simplon, a Bwlch Stelvio.[12]
Gan groesi'r ffin rhwng yr Eidal ac Awstria, mae Bwlch Brenner yn gwahanu'r Alpau Ötztal ac Alpau Zillertal ac mae wedi bod yn cael ei ddefnyddio fel llwybr masnachu ers y 14g o leiaf. Mae'r isaf o'r bylchau Alpaidd yn 985 uwch lefel y môr sef y Semmering yn croesi o Awstria Isaf i Styria; ers y 12g pan adeiladwyd hosbis yno, mae wedi gweld defnydd parhaus. Codwyd rheilffordd gyda thwnnel un filltir o hyd ar y llwybr yng nghanol y 19g. Gyda chopa o 2,469 m mae Bwlch Mawr St. Bernard yn un o'r uchaf yn yr Alpau, gan groesi'r ffin rhwng yr Eidal a'r Swistir i'r dwyrain o Alpau Pennine ar hyd ochrau Mont Blanc. Defnyddiwyd y bwlch hwn gan Napoleon Bonaparte i groesi 40,000 o filwyr ym 1800.[13]
Ar 1 Mehefin 2016 agorwyd twnnel rheilffordd hiraf y byd, sef Twnnel Sylfaen Gotthard, sy'n cysylltu Erstfeld yng nghanton Uri â Bodio yng Nghanton Ticino gan ddau diwb sengl o 57.1 km.[14]
Y bwlch uchaf yn yr Alpau yw'r col de l'Iseran yn Savoy (Ffrainc) sydd yn 2,770 m ac yna Bwlch Stelvio yng ngogledd yr Eidal sy'n 2,756 uwch lefel y môr; adeiladwyd y ffordd yn y 1820au.[12]
Mynyddoedd dros 4,000 medr
[golygu | golygu cod]Mae'r Union Internationale des Associations d'Alpinisme (UIAA) wedi diffinio rhestr o 82 o begynau Alpaidd "swyddogol" sy'n cyrraedd o leiaf 4,000 metr (13,123 tr).[15] Mae'r rhestr yn cynnwys nid yn unig mynyddoedd, ond hefyd pegynau heb fawr o amlygrwydd rhyngddynt, sy'n cael eu hystyried yn fynyddoedd pwysig i'r dringwyr mynydd. Isod, rhestrir y 29 "pedair mil" gydag o leiaf 300 m o amlygrwydd rhyngddynt.
Name | Height | Name | Height | Name | Height |
---|---|---|---|---|---|
Mont Blanc | 4810 m | Grandes Jorasses | 4208 m | Barre des Écrins | 4102 m |
Monte Rosa | 4634 m | Alphubel | 4206 m | Schreckhorn | 4078 m |
Dom | 4545 m | Rimpfischhorn | 4199 m | Ober Gabelhorn | 4063 m |
Lyskamm | 4533 m | Aletschhorn | 4193 m | Gran Paradiso | 4061 m |
Weisshorn | 4506 m | Strahlhorn | 4190 m | Piz Bernina | 4049 m |
Matterhorn | 4478 m | Dent d'Hérens | 4174 m | Gross Fiescherhorn | 4049 m |
Dent Blanche | 4357 m | Breithorn | 4164 m | Gross Grünhorn | 4047 m |
Grand Combin | 4314 m | Jungfrau | 4158 m | Weissmies | 4017 m |
Finsteraarhorn | 4274 m | Aiguille Verte | 4122 m | Lagginhorn | 4010 m |
Zinalrothorn | 4221 m | Mönch | 4107 m |
Dinasoedd mwyaf
[golygu | golygu cod]Y ddinas fwyaf yn yr Alpau yw dinas Grenoble yn Ffrainc. Mae dinasoedd mawr a phwysig eraill yn yr Alpau gyda dros 100,000 o drigolion yn cynnwys y Tyrol gyda Bolzano (yr Eidal), Trento (yr Eidal) ac Innsbruck (Awstria). Y dinasoedd mwyaf y tu allan i'r Alpau yw Milan, Verona, Turin (yr Eidal), Munich (yr Almaen), Graz, Fienna, Salzburg (Awstria), Ljubljana, Maribor, Kranj (Slofenia), Zurich, Genefa (y Swistir), Nice a Lyon (Ffrainc).
Dinasoedd â dros 100,000 o drigolion yn yr Alpau yw:
Safle | Dinesig | Cyd-breswylwyr | Gwlad | Rhanbarth |
---|---|---|---|---|
1 | Grenoble | 162,780 | Ffrainc | Auvergne-Rhône-Alpes |
2 | Innsbruck | 132,236 | Awstria | Tyrol |
3 | Trento | 117,417 | Yr Eidal | Trentino-De Tyrol |
4 | Bolzano / Bozen | 106,951 | Yr Eidal | Trentino-De Tyrol |
Cludiant
[golygu | golygu cod]Gwasanaethir y rhanbarth gan 4,200 km o ffyrdd a ddefnyddir gan chwe miliwn o gerbydau'r flwyddyn.[1] Mae teithio ar drên wedi'i hen sefydlu yn yr Alpau, gyda 120 km o drac am bob 1,000 km sg mewn gwlad fel y Swistir.[17] Mae'r rhan fwyaf o reilffyrdd uchaf Ewrop wedi'u lleoli yno. Yn 2007 agorwyd twnnel 34.57 km o'r enw Twnnel Lötschberg. Ar 1 Mehefin 2016 agorwyd Twnnel Sylfaen Gotthard sy'n 57.1 km (35.5 milltir) o hyd ac yn gwireddu'r llwybr gwastad cyntaf trwy'r Alpau.[18] Mewn cymhariaeth, byddai twnnel o'r un maint yng Nghymru yn ymestyn o Fangor, o dan Eryri, i Ddolgellau.
Mwynau
[golygu | golygu cod]Mae'r Alpau'n ffynhonnell mwynau sydd wedi'u cloddio am filoedd o flynyddoedd. Yn yr 8fed i'r 6g CC yn ystod y diwylliant Hallstatt, roedd llwythau Celtaidd yn cloddio copr; yn ddiweddarach bu'r Rhufeiniaid yn cloddio aur am ddarnau arian yn ardal Bad Gastein. Mae Erzberg yn Styria yn gyfoethog ei fwyn haearn, sydd o ansawdd uchel ar gyfer y diwydiant dur a cheir crisialau, fel cinnabar, amethyst, a chwarts, i'w cael ledled llawer o'r rhanbarth Alpaidd. Mae'r dyddodion cinnabar yn Slofenia yn ffynhonnell nodedig o bigmentau cinnabar.[19]
Casglwyd ac astudiwyd crisialau alpaidd am gannoedd o flynyddoedd, a dechreuwyd eu dosbarthu yn y 18g. Astudiodd Leonhard Euler siapiau crisialau, ac erbyn y 19g roedd hel grisial yn gyffredin mewn rhanbarthau Alpaidd. Casglodd David Friedrich Wiser gasgliad o 8,000 o grisialau a astudiodd ac a ddogfennodd. Yn yr 20g ysgrifennodd Robert Parker waith adnabyddus am grisialau creigiau Alpau'r Swistir; ar yr un cyfnod sefydlwyd comisiwn i reoli a safoni enwi mwynau Alpaidd.[20]
Rhewlifoedd
[golygu | golygu cod]Yn yr Epoc Mïosen bu erydiad difrifol i'r mynyddoedd oherwydd rhewlifiant,[21] a gofnodwyd yng nghanol y 19g gan y naturiaethwr Louis Agassiz a gyflwynodd bapur yn cyhoeddi bod yr Alpau wedi'u gorchuddio â rhew ar wahanol gyfnodau - theori a ffurfiodd wrth astudio creigiau ger ei gartref yn Neuchâtel. Credai y tarddodd y rhewlif i'r gorllewin yn y Bernese Oberland. Oherwydd ei waith daeth i gael ei adnabod fel "tad y cysyniad o oes yr iâ" er bod naturiaethwyr eraill o'i flaen wedi cyflwyno syniadau tebyg.[22]
Astudiodd Agassiz symudiad Rhewlif Unteraar yn y 1840au a gwelodd fod y rhewlif wedi symud 100 metr y flwyddyn - yn gyflymach yn y canol nag ar yr ymylon. Parhawyd â'i waith gan wyddonwyr eraill ac erbyn hyn mae labordy parhaol yn bodoli y tu mewn i rewlif o dan y Jungfraujoch, wedi'i neilltuo'n benodol i astudio rhewlifoedd Alpaidd.[22]
Gall rhewlifoedd alpaidd fod yn afonydd syth o rew, afonydd ysgubol hir, wedi'u taenu mewn siâp tebyg i wnytyll (rhewlifoedd Piedmont), a llenni o rew sy'n hongian o lethrau fertigol copaon y mynyddoedd. Mae straen y symudiad yn achosi i'r rhew dorri a chracio'n uchel, gan egluro efallai pam y credwyd bod y mynyddoedd yn gartref i ddreigiau yn y cyfnod canoloesol. Mae'r cracio yn creu holltau anrhagweladwy a pheryglus, yn aml yn anweledig o dan eira newydd, sy'n achosi'r perygl mwyaf i fynyddwyr.[23]
Afonydd a llynnoedd
[golygu | golygu cod]Mae'r Alpau yn darparu dŵr yfed, dŵr dyfrhau caeau amaethyddol a phŵer trydan dŵr, islaw yn iseldir Ewrop.[25] Er mai dim ond tua 11% o arwynebedd Ewrop yw'r ardal, mae'r Alpau yn darparu hyd at 90% o ddŵr i iseldir Ewrop, yn enwedig i ardaloedd cras ac yn ystod misoedd yr haf. Mae dinasoedd fel Milan yn dibynnu ar 80% o ddŵr ffo Alpaidd.[5][26][27] Defnyddir dŵr o'r afonydd mewn dros 500 o weithfeydd pŵer trydan dŵr, gan gynhyrchu cyfanswm o 2,900 GWh o drydan.[1]
Mae afonydd mawr Ewrop yn llifo o'r Alpau, e.e. y Rhein, y Rhône, yr Inn, a'r Po, y mae gan bob un ohonynt flaenddyfroedd a nentydd yn yr Alpau ac yn llifo i wledydd cyfagos, gan wagio o'r diwedd i Fôr y Gogledd, Môr y Canoldir, yr Môr Adria, a'r Môr Du . Mae gan afonydd eraill fel Afon Donaw isafonydd mawr sy'n llifo iddynt ac sy'n tarddu o'r Alpau.[5]
Mae'r Rhône yn ail i'r Nile fel ffynhonnell dŵr croyw sy'n gwagio i Fôr y Canoldir; mae'r afon yn cychwyn fel dŵr tawdd rhewlifol, yn llifo i Lyn Genefa, ac oddi yno i Ffrainc lle defnyddir y dŵr i oeri gorsafoedd pŵer niwclear.[28] Mae'r Rhein yn tarddu mewn 30 km sg o fewn y Swistir ac yn cynrychioli bron i 60% o'r dŵr sy'n cael ei allforio o'r wlad.[28] Ceir cymoedd isafonydd cymhleth, sy'n sianelu dŵr i'r prif ddyffrynnoedd a all ddioddef llifogydd yn ystod y tymor eira pan gwelir llawer o ddŵr ffo, tawdd.[29]
Mae'r afonydd yn ffurfio llynnoedd, fel Llyn Genefa, llyn siâp cilgant sy'n croesi ffin y Swistir gyda Lausanne ar ochr y Swistir a thref Evian-les-Bains ar ochr Ffrainc. Yn yr Almaen, adeiladwyd capel canoloesol Sant Bartholomew ar ochr ddeheuol y Königssee, y gellir ei gyrraedd mewn cwch yn unig neu trwy ddringo dros y copaon cyffiniol.[30]
Yn ogystal, mae'r Alpau wedi arwain at greu llynnoedd mawr yn yr Eidal. Er enghraifft, mae'r Sarca, prif fewnlif Llyn Garda, yn tarddu o Alpau'r Eidal. Bu Llynnoedd yr Eidal yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ers y Cyfnod Rhufeinig oherwydd eu hinsawdd fwyn a'u golygfeydd trawiadol.
Mae gwyddonwyr wedi bod yn astudio effaith newid hinsawdd a defnyddio dŵr. Er enghraifft, bob blwyddyn mae mwy o ddŵr yn cael ei ddargyfeirio o afonydd ar gyfer gwneud eira yn y cyrchfannau sgïo, nad yw ei effaith yn hysbys eto. Ar ben hynny, gall y gostyngiad mewn ardaloedd rhewlifol ynghyd ag olyniaeth o aeafau â dyodiad is na'r disgwyl gael effaith yn y dyfodol ar yr afonydd yn yr Alpau yn ogystal ag effaith ar argaeledd dŵr i'r iseldiroedd.[26][31]
Hinsawdd
[golygu | golygu cod]Mae'r Alpau yn enghraifft glasurol o'r hyn sy'n digwydd pan fydd ardal dymherus ar uchder is yn ildio i dir drychiad uwch. Oherwydd hyn, mae drychiadau ledled y byd sydd â hinsoddau oer tebyg i rai'r rhanbarthau pegynol wedi cael eu galw'n Alpaidd. Mae codi o lefel y môr i ranbarthau uchaf yr atmosffer yn achosi i'r tymheredd ostwng. Effaith cadwyni mynydd ar y prifwyntoedd yw cludo aer cynnes sy'n perthyn i'r rhanbarth isaf i barth uwch, lle mae'n ehangu mewn cyfaint ar y gost o golli tymheredd, a hynny'n gymesur, yn aml ynghyd â dyodiad ar ffurf eira neu law.[32] Mae uchder yr Alpau yn ddigon i wahanu'r patrymau tywydd yn Ewrop yn ogledd gwlyb a de sych oherwydd bod lleithder yn cael ei sugno o'r awyr wrth iddo lifo dros y copaon uchel.[33]
Astudiwyd y tywydd garw yn yr Alpau ers y 18g; yn enwedig y patrymau tywydd fel y gwynt foehn tymhorol. Gosodwyd nifer o orsafoedd tywydd yn y mynyddoedd yn gynnar yn yr 20g, gan ddarparu data parhaus ar gyfer hinsoddegwyr.[4] Mae rhai o'r cymoedd yn eithaf cras fel dyffryn Aosta yn yr Eidal, y Maurienne yn Ffrainc, y Valais yn y Swistir, a gogledd Tyrol.[4]
Rhennir yr Alpau yn bum parth hinsoddol, pob un â llystyfiant gwahanol. Mae'r hinsawdd, bywyd planhigion a bywyd anifeiliaid yn amrywio ymhlith gwahanol rannau neu barthau y mynyddoedd. Y parth isaf yw'r parth colline, sy'n bodoli rhwng 500 a 1,000 metr, yn dibynnu ar y lleoliad. Mae'r parth mynyddig yn ymestyn o 800 i 1,700 metr a'r parth is-Alpaidd o 1,600 i 2,400 metr. Dilynir y parth Alpaidd, sy'n ymestyn o linell y coed i linell eira, gan y parth rhewlifol, sy'n gorchuddio ardaloedd rhewlifol y mynydd. Mae amodau hinsoddol yn dangos amrywiadau o fewn yr un parth; er enghraifft, mae'r tywydd ar ben mynydd, sy'n ymestyn yn uniongyrchol o'r copaon, yn oerach ac yn fwy difrifol na'r rhai ar lawr y dyffryn sy'n tueddu i fod yn llai difrifol ac yn derbyn llai o eira.[34]
Rhagamcanwyd modelau amrywiol o newid hinsawdd yn yr 22g ar gyfer yr Alpau, gan ddisgwyl y bydd tuedd tuag at dymereddau uwch yn cael effaith ar gwymp eira, rhewlifiant a dŵr ffo'r afonydd.[35] Mae newidiadau sylweddol, o darddiad naturiol ac anthropogenig, eisoes wedi'u rhagweld.[36][37][38]
Ecoleg
[golygu | golygu cod]Fflora
[golygu | golygu cod]Cofnodwyd tair mil ar ddeg o rywogaethau o blanhigion yn y rhanbarthau Alpaidd,[1] sydd wedi'u grwpio yn ôl cynefin a math o bridd a all fod yn galchfaen neu'n ddi-galchaidd. Amrywia'r cynefinoedd yn fawr, gyda dolydd, corsydd, ardaloedd coetir (collddail a chonwydd), sgri a marianau heb bridd, ac wynebau a chribau creigiau.[39] Ceir coed collddail - masarn, derw, ffawydd, ynn a sycamorwydden. Nid yw'r rhain yn cyrraedd yr un drychiad yn union, ac ni chânt eu canfod yn aml yn tyfu gyda'i gilydd; ond mae eu terfyn uchaf yn cyfateb yn ddigon cywir i'r newid o hinsawdd dymherus i hinsawdd oerach a brofir ymhellach gan newid ym mhresenoldeb llystyfiant llysieuol gwyllt.[32] Mae'r terfyn hwn fel arfer yn gorwedd tua 1,200 metr uwch lefel y môr ar ochr ogleddol yr Alpau, ond ar y llethrau deheuol mae'n aml yn codi i 1,500 metr ac weithiau hyd yn oed i 1,700 metr.[40]
Uwchben y coedwigoedd, yn aml, ceir stribed o goed pinwydd byr (Pinus mugo), sydd yn ei dro'n cael ei ddisodli gan Alpenrosen, llwyni corrach e.e. Rhododendron ferrugineum (ar briddoedd asid) neu Rhododendron hirsutum (ar briddoedd alcalïaidd).[41] Er bod yn well gan yr Alpenrose bridd asidig, mae'r planhigion i'w cael ledled y rhanbarth.[39] Uwchben llinell y coed mae'r ardal a ddiffinnir fel "alpaidd" lle mae planhigion yn y ddôl alpaidd sydd wedi addasu'n dda i amodau garw tymereddau oer, arid ac thiroedduchel. Mae'r ardal alpaidd yn amrywio'n fawr oherwydd amrywiadau rhanbarthol mewn llinellau coed.[42]
Ffawna
[golygu | golygu cod]Mae'r Alpau'n gynefin i 30,000 o rywogaethau o fywyd gwyllt, yn amrywio o'r chwain eira lleiaf i eirth brown, gyda llawer ohonynt wedi addasu i'r amodau oer garw ac uchderau uchel i'r pwynt bod rhai ond yn goroesi mewn micro-hinsoddau penodol naill ai'n union uwchben neu'n is na'r llinell eira.[1][43]
Y mamal mwyaf i fyw yn yr uchderau uchaf yw'r ibex alpaidd (Capra ibex), sydd wedi'i weld mor uchel â 3,000 metr. Mae'r ibex yn byw mewn ogofâu ac yn disgyn i fwyta'r gweiriau alpaidd maethlon.[44] Anifail ychydig llai yw'r chamois[39] sydd i'w gael ledled yr Alpau, gan fyw uwchben llinell y coed ac sydd i'w weld dros hyd a lled yr Alpau.[45] Gwelir drwy ardaloedd dwyreiniol o'r Alpau eirth brown. Yn y Swistir enwyd canton Bern ar gyfer yr eirth ond cofnodir bod yr arth olaf wedi'i lladd ym 1792 uwchben Kleine Scheidegg gan dri heliwr o Grindelwald.[46]
Hanes
[golygu | golygu cod]Cynhanes i Gristnogaeth
[golygu | golygu cod]Tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, pan doddodd yr iâ ar ôl rhewlifiant Würm, sefydlwyd cymunedau Hen Oes y Cerrig (Paleolithig) ar hyd glannau llynnoedd ac mewn systemau o ogofâu. Ceir tystiolaeth o bobl yn byw mewn ogofâu ger Vercors, yn agos at Grenoble; yn Awstria ac olion y diwylliant Mondsee yn a thystiolaeth o dai wedi'u hadeiladu ar bentyrrau i'w cadw'n sych. Cafwyd hyd i feini hirion yn ardaloedd Alpaidd yn Ffrainc a'r Eidal. Mae'r Darluniau Creigiau yn Valcamonica yn fwy na 5,000 mlwydd oed a cheir dros 200,000 o luniau ac ysgythriadau wedi'u cofnodi ar y safle.[47]
Yn 1991 darganfuwyd mymi gan gerddwyr ar rewlif Similaun: corff dyn neolithig, ac a elwir bellach yn "Ötzi y Dyn Rhew". Dengys ei ddillad a’i gêr ei fod yn byw mewn cymuned ffermio alpaidd, tra bod lleoliad a dull ei farwolaeth - darganfuwyd pen saeth yn ei ysgwydd - yn awgrymu ei fod yn teithio o un lle i’r llall, dros yr Alpau.[48] Mae dadansoddiad o DNA mitochondrial Ötzi, wedi dangos ei fod yn perthyn i is- ddosbarth K1 na ellir ei gategoreiddio i unrhyw un o dair cangen fodern yr isddosbarth hwnnw. Mae'r isddosbarth newydd wedi'i enwi dros dro yn K1ö ar gyfer Ötzi .[49]
Ymsefydlodd llwythau Celtaidd yn y Swistir rhwng 1500 a 1000 CC. Roedd llwyth y Rhaetiaid yn byw yn y rhanbarthau dwyreiniol, tra bod yr Helvetii yn byw yn y gorllewin; ymgartrefodd yr Allobroges yn nyffryn Rhône ac yn Savoy. Roedd y Ligwriaid a'r Feneti Adriatig yn byw yng ngogledd-orllewin yr Eidal a Triveneto, yn y drefn honno. Ymhlith y nifer helaeth o sylweddau a gloddiwyd gan y llwythau Celtaiddroedd halen, yn enwedig yn ardaloedd fel Salzburg yn Awstria. Yno, daethpwyd o hyd i dystiolaeth o ddiwylliant Hallstatt gan reolwr mwynglawdd yn y 19g.[47] Erbyn y 6g CC roedd diwylliant La Tène wedi'i hen sefydlu yn y rhanbarth,[50] a daeth yn adnabyddus am arfau a gemwaith addurnedig o ansawdd uchel.[51] Y Celtiaid oedd y mwyaf pwerus a phoblog o'r llwythau mynydd - ac roedd ganddyn nhw ryfelwyr a oedd â chroen cryf, tal a theg, ac yn fedrus gydag arfau haearn, a roddodd fantais iddynt wrth ryfela.[52]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Chatré, Baptiste, et al. (2010), 8
- ↑ "Alp | Origin and meaning of alp by Online Etymology Dictionary".
- ↑ Maurus Servius Honoratus (1881). "Book 10, line 13". In Georgius Thilo (gol.). Servii Grammatici qui feruntur in Vergilii carmina commentarii (yn Lladin).
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Ceben (1998), 22–24
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Chatré, Baptiste, et al. (2010), 9
- ↑ Fleming (2000), 1
- ↑ 7.0 7.1 7.2 Beattie (2006), xii–xiii
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 25, 2018. Cyrchwyd March 9, 2019.CS1 maint: archived copy as title (link)
- ↑ Die Alpen: Hydrologie und Verkehrsübergänge (German)
- ↑ Knox 1911, t. 740.
- ↑ Fleming (2000), 4
- ↑ 12.0 12.1 Encyclopædia Britannica.
- ↑ "History of the Great St Bernard pass". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 December 2012. Cyrchwyd 8 Awst 2007.
- ↑ "Wer hat die grösste Röhre?". Tages-Anzeiger (yn Almaeneg). Zurich. April 14, 2016. Cyrchwyd 11 Mai 2016. Unknown parameter
|TransTitle=
ignored (|trans-title=
suggested) (help) - ↑ "The 4000ers of the Alps: Official UIAA List". UIAA-Bulletin (145). March 1994. http://www.club4000.it/Articoli/Boll_uiaa.pdf.
- ↑ "4000 m Peaks of the Alps". Bielefeldt.de. July 6, 2010. Cyrchwyd 9 Awst 2012.
- ↑ "Rail".
- ↑ "Welcome to the AlpTransit Portal". Bern: Swiss Federal Archives SFA.
- ↑ Shoumatoff (2001), 49–53
- ↑ Roth, 10–17
- ↑ Gerrard, (1990), 16
- ↑ 22.0 22.1 22.2 Shoumatoff (2001), 63–68
- ↑ Shoumatoff (2001), 71–72
- ↑ Shoumatoff (2001), 31
- ↑ Chatré, Baptiste, et al. (2010), 5
- ↑ 26.0 26.1 Benniston et al. (2011), 1
- ↑ Price, Martin.
- ↑ 28.0 28.1 Benniston et al. (2011), 3
- ↑ Ceben (1998), 31
- ↑ Shoumatoff (2001), 24, 31
- ↑ Chatré, Baptiste, et al. (2010), 13
- ↑ 32.0 32.1 Knox 1911.
- ↑ Fleming (2000), 3
- ↑ Viazzo (1980), 17
- ↑ Benniston (2011), 3–4
- ↑ Huss, Matthias; Hock, Regine; Bauder, Andreas; Funk, Martin (May 1, 2010). "100-year mass changes in the Swiss Alps linked to the Atlantic Multidecadal Oscillation" (yn en). Geophysical Research Letters 37 (10): L10501. Bibcode 2010GeoRL..3710501H. doi:10.1029/2010GL042616. ISSN 1944-8007. http://doc.rero.ch/record/20213/files/hus_msc_sm.pdf.
- ↑ Zampieri, Matteo; Scoccimarro, Enrico; Gualdi, Silvio (January 1, 2013). "Atlantic influence on spring snowfall over the Alps in the past 150 years" (yn en). Environmental Research Letters 8 (3): 034026. Bibcode 2013ERL.....8c4026Z. doi:10.1088/1748-9326/8/3/034026. ISSN 1748-9326.
- ↑ Zampieri, Matteo; Scoccimarro, Enrico; Gualdi, Silvio; Navarra, Antonio (January 15, 2015). "Observed shift towards earlier spring discharge in the main Alpine rivers". Science of the Total Environment. Towards a better understanding of the links between stressors, hazard assessment and ecosystem services under water scarcity 503–504: 222–232. Bibcode 2015ScTEn.503..222Z. doi:10.1016/j.scitotenv.2014.06.036. PMID 25005239.
- ↑ 39.0 39.1 39.2 Reynolds, (2012), 43–45
- ↑ Shoumatoff (2001), 75
- ↑ Beattie (2006), 17
- ↑ Körner (2003), 9
- ↑ Shoumatoff (2001), 90, 96, 101
- ↑ Shoumatoff (2001), 104
- ↑ Rupicapra rupicapra [Linnaeus, 1758]
- ↑ Shoumatoff (2001), 101
- ↑ 47.0 47.1 Beattie, (2006), 25
- ↑ Beattie, (2006), 21
- ↑ Luca Ermini et al., "Complete Mitochondrial Genome Sequence of the Tyrolean Iceman," Current Biology, vol. 18, no. 21 (30 October 2008), pp. 1687–1693.
- ↑ Fleming (2000), 2
- ↑ Shoumatoff (2001), 131
- ↑ Shoumatoff (2001), 110